St. George's, Grenada
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas a dinas fwyaf Grenada yn y Caribî yw St. George's. Mae ganddi boblogaeth o 7,500 (1999), gyda chyfanswm o 33,000 o bobl yn byw ynddi a'r cyffiniau. Gorwedd y ddinas wrth droed crater hen losgfynydd ar harbwr ar ffurf pedol.
Sefydlwyd y ddinas gan y Ffrancod yn 1650. Mae'n gartref i senedd Grenada, yr Amgueddfa Genedlaethol a sawl adeilad arall. Ar ei hymyl ceir Maes Awyr Point Salines, prif faes awyr Grenada.