Prosiect Llunio'r Dyfodol

Oddi ar Wicipedia

Prosiect unigryw yw Llunio’r Dyfodol (LlrD) sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad rhanbarth cyfan yn sgil colli gweithwyr galluog. Fe’i dyluniwyd i greu swyddi newydd yng ngogledd orllewin Cymru sy’n manteisio ar y lefel uchel o arbenigedd peirianyddol a thechnegol yn niwydiant pŵer niwclear gogledd Cymru.[1] Bydd y gorsafoedd pŵer hyn yn cael eu dad-gomisiynu'n fuan a bydd gogledd-orllewin Cymru yn colli dau gyflogwr mawr a gweithlu ysgilgar ac arbenigwyr yn eu maes o’r rhanbarth.

Bwriad y prosiect yw lliniaru hyn drwy ailhyfforddi gweithwyr y gorsafoedd er mwyn iddynt feddu ar sgiliau’r dyfodol mewn diwydiannau allweddol – fel ynni adnewyddadwy a thwristiaeth – a hyrwyddo’r rhanbarth fel canolbwynt gweithlu talentog, galluog o'r safon uchaf.

Denwyd lefel arwyddocaol o nawdd ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd a’r Awdurdod Dad-gomisiynu Niwclear.[2]

Menter Môn yw corff atebol Llunio’r Dyfodol, sy’n gweithredu’n eang ledled rhanbarth gogledd orllewin Cymru, gan gyflawni amrywiaeth o brosiectau datblygu economi'r UE ac amrywiaeth o gontractau menter ar ran comisiynwyr o’r sector cyhoeddus.[angen ffynhonnell]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Gwefan yr Awdurdod Dadgomisiynnu Niwclear | Newyddlen Rhanddeiliaid | http://www.nda.gov.uk/stakeholders/newsletter/communities-support.cfm?renderforprint=1& Archifwyd 2012-04-14 yn y Peiriant Wayback.
  2. (Saesneg) http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-16002946