Navaho

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Aelod o lwyth y Nafaho

Y Navaho (neu Nafaho, Navajo) yw'r mwyaf o ran poblogaeth o bobloedd brodorol Gogledd America. Eu henw arnynt eu hunain yw'r Diné ("Y bobl").

Mae tua 175,000 o Navaho, yn byw yn bennaf yn ne-orllewin yr Unol Daleithiau, yn arbennig yn nhalaith Arizona ond gyda niferoedd sylweddol hefyd yn New Mexico, Utah a Colorado. Mae'r mwyafrif yn byw ar diroedd cadw y Navaho yn Arizona. Prifddinas y Navaho yw Window Rock, Arizona.

Helwyr Navaho yn 1887

Roedd y Navaho, sy'n siarad iaith atabascaidd, yn wreiddiol o'r hyn sy'n awr yn Canada, a symudasant i'r de yn y cyfnod wedi'r 13eg ganrif. Bu ymladd rhyngddynt a dynion gwynion a rai blynyddoedd, cyn iddynt orfod ildio. Yn 1864 gorfodwyd y Navajo i wneud Hirdaith y Navaho i wersyll Bosque Redondo.