Gerard Elias

Oddi ar Wicipedia

Bargyfreithiwr troseddol a Chomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Gerard Elias CF (ganwyd 19 Tachwedd 1944).[1] Penodwyd yn Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad ar 17 Tachwedd 2010,[2] ac olynodd Richard Penn i'r swydd ar 1 Rhagfyr.[3] Penn oedd y Comisiynydd Safonau cyntaf, ond Elias yw'r cyntaf sy'n annibynnol statudol yn unol â Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.

Roedd Elias yn rhan o'r ymchwiliadau cyhoeddus i'r sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru, Bloody Sunday, a marwolaeth Baha Mousa. Yn ystod ei yrfa bu hefyd yn Ddirprwy Farnwr yr Uchel Lys; Cofiadur a chyn Arweinydd Cylchdaith Cymru a Chaer; Canghellor, Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu; Cadeirydd Comisiwn Disgyblaeth Bwrdd Criced Lloegr a Chymru; a Chadeirydd Sports Resolutions UK.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Gerard Elias, Esq, QC. Debrett's. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
  2. 2.0 2.1  Gerard Elias CF. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 8 Ebrill 2012.
  3. (Saesneg) Assembly Commission questions. BBC (17 Tachwedd 2010). Adalwyd ar 8 Ebrill 2012.



Baner Y Deyrnas UnedigEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Brydeiniwr neu Brydeinwraig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.