Christopher Hitchens

Oddi ar Wicipedia
Christopher Hitchens
GanwydChristopher Eric Hitchens Edit this on Wikidata
13 Ebrill 1949 Edit this on Wikidata
Portsmouth Edit this on Wikidata
Bu farw15 Rhagfyr 2011 Edit this on Wikidata
o niwmonia'r ysgyfaint Edit this on Wikidata
Houston Edit this on Wikidata
Man preswylPortsmouth, Washington Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, beirniad llenyddol, gwyddonydd gwleidyddol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLetters to a Young Contrarian, God Is Not Great, The Missionary Position: Mother Teresa in Theory and Practice, Mortality, Hitch-22, No One Left to Lie To Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGeorge Orwell, Leon Trotsky, Thomas Paine, Thomas Jefferson, George Eliot, Vladimir Nabokov, Salman Rushdie, Colm Tóibín, Edward Said, Albert Camus Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSocialist Workers Party Edit this on Wikidata
Mudiadanffyddiaeth Edit this on Wikidata
PriodEleni Meleagrou, Carol Blue Edit this on Wikidata
PlantAlexander Meleagrou-Hitchens Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Richard Dawkins, Gwobr PEN/Diamonstein-Spielvogel am Gelfyddyd y Traethawd, Lannan Literary Awards, Gwobr Ariannol Lennon Ono, Emperor Has No Clothes Award, Great Immigrants Award Edit this on Wikidata
llofnod

Awdur a newyddiadurwr[1] Seisnig-Americanaidd[2] oedd Christopher Eric Hitchens (13 Ebrill 194915 Rhagfyr 2011). Bu'n golofnydd ac yn feirniad llenyddol ar gyfer The Atlantic, Vanity Fair, Slate, World Affairs, The Nation, a Free Inquiry, a daeth yn gymrawd y cyfryngau yn yr Hoover Institution ym mis Medi 2008.[3] Roedd yn wyneb cyfarwydd ar sioeau sgwrs a'r cylched darlithio ac yn 2005 fe'i etholwyd yn bumed o brif ddeallusion cyhoeddus y byd gan arolwg Prospect/Foreign Policy.[4]

Edmygwr enwog o George Orwell, Thomas Paine, a Thomas Jefferson oedd Hitchens a beirniad hallt o nifer o unigolion enwog, gan gynnwys y Fam Teresa, Bill a Hillary Clinton, ac Henry Kissinger. Mae ei arddull wrthdrawiadol o ddadlau wedi'i wneud yn ffigur poblogaidd a dadleuol. Fel sylwebydd gwleidyddol, polemegydd, ac, yn ôl disgrifiad ei hunan, radicalwr, daeth i'r amlwg mewn cyhoeddiadau adain chwith ym Mhrydain ac yr Unol Daleithiau. Dechreuodd ei ymadawiad o'r chwith ym 1989 o ganlyniad i ymateb y chwith yn y Gorllewin i fatwā'r Ayatollah Khomeini oedd yn galw am lofruddiaeth Salman Rushdie. Cryfhaodd ymosodiadau 11 Medi, 2001 ei gefnogaeth ryng-genedlaetholaidd dros bolisi tramor ymyraethol, a'i feirniadaeth groch o'r hyn a alwodd yn "ffasgiaeth ag wyneb Islamaidd". Labelwyd yn neo-geidwadwr gan rai o ganlyniad i'w nifer o erthyglau golygyddol o blaid Rhyfel Irac, ond mynnodd Hitchens nad yw'n "geidwadwr o unrhyw fath".[5]

Ystyrid Hitchens yn un o ffigurau blaenllaw y mudiad "Anffyddiaeth Newydd", a disgrifiodd ei hunan yn wrthdduwydd ac yn gredwr yng ngwerthoedd athronyddol yr Oleuedigaeth. Dywedodd Hitchens y gall berson "bod yn anffyddiwr gan ddymuno bod cred yn nuw yn gywir", ond "gwrthdduwydd (antitheist), term yr wyf yn ceisio ei boblogeiddio, yw rhywun sydd yn falch nad oes tystiolaeth dros y fath honiad".[6] Dadleuodd taw cred dotalitaraidd sy'n dinistrio rhyddid unigol yw'r cysyniad o dduw neu oruchaf fod, ac y ddylai mynegiant rhydd a darganfyddiad gwyddonol cymryd lle crefydd fel modd o ddysgu moeseg a diffinio gwareiddiad dynol. Ysgrifennodd ar anffyddiaeth a natur crefydd yn ei lyfr God Is Not Great a gyhoeddwyd yn 2007.

Er iddo gadw ei ddinasyddiaeth Brydeinig, daeth Hitchens yn ddinesydd Americanaidd ar risiau Cofeb Jefferson ar 13 Ebrill 2007, ei ben-blwydd yn 58 oed.[7] Cyhoeddwyd ei hunangofiant Hitch-22: A Memoir ym Mehefin 2010. Daeth y daith ar gyfer y llyfr i ben yn hwyrach yn yr un mis er mwyn iddo gychwyn triniaeth am gancr yr oesoffagws.[8] Bu farw ar 15 Rhagfyr 2011 o niwmonia, cymhlethdod i'w gancr.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • 1987 Imperial Spoils: The Curious Case of the Elgin Marbles, Chatto and Windus (DU)/Hill and Wang (UDA, 1988) / fersiwn 1997 Verso yn y DU fel The Elgin Marbles: Should They Be Returned to Greece? (gyda thraethodau gan Robert Browning a Graham Binns)
  • 1988 Blaming the Victims: Spurious Scholarship and the Palestinian Question (cyfrannwr; cyd-olygydd gydag Edward Said) Verso, ISBN 0-86091-887-4 Ailgyhoeddwyd, 2001
  • 1995 The Missionary Position: Mother Teresa in Theory and Practice, Verso
  • 2000 Unacknowledged Legislation: Writers in the Public Sphere, Verso
  • 2001 The Trial of Henry Kissinger, Verso
  • 2001 Letters to a Young Contrarian, Basic Books
  • 2004 Love, Poverty, and War: Journeys and Essays, Thunder's Mouth, Nation Books, ISBN 1-56025-580-3
  • 2005 Thomas Jefferson: Author of America, Eminent Lives/Atlas Books/HarperCollins Publishers, ISBN 0-06-059896-4
  • 2007 The Portable Atheist: Essential Readings for the Non-Believer, [Golygydd] Perseus Publishing. ISBN 9780306816086
  • 2007 God Is Not Great: How Religion Poisons Everythin], Twelve/Hachette Book Group USA/Warner Books, ISBN 0446579807 / Cyhoeddwyd yn y DU fel God Is Not Great: The Case Against Religion, Atlantic Books, ISBN 978-1-84354-586-6
  • 2008 Christopher Hitchens and His Critics: Terror, Iraq and the Left (gyda Simon Cottee a Thomas Cushman), New York University Press
  • 2008 Is Christianity Good for the World? – A Debate (cyd-awdur, gyda Douglas Wilson), Canon Press, ISBN 1-59128-053-2
  • 2010 Hitch-22 Some Confessions and Contradictions: A Memoir, Hachette Book Group, ISBN 9780446540339
  • 2011 Arguably, Twelve, ISBN 1-4555-0277-4

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Donaldson James, Susan (2 Gorffennaf 2010). Christopher Hitchens, Author of 'God is Not Great,' Battles Cancer. ABC News.
  2. (Saesneg) Kroft, Steve (6 Mawrth 2011). Outspoken and outrageous: Christopher Hitchens. CBS News.
  3. (Saesneg) Christopher Hitchens on Sarah Palin: "A Disgraceful Opportunist and Moral Coward" | PoliticalArticles.NET
  4. (Saesneg) Intellectuals—the results. Prospect (26 Gorffennaf 2008).
  5. (Saesneg) Eaton, George (12 Gorffennaf 2010). Interview: Christopher Hitchens. New Statesman.
  6. (Saesneg) Mayer, Andre (14 Mai 2007). Nothing sacred — Journalist and provocateur Christopher Hitchens picks a fight with God. CBC.
  7. (Saesneg) Holiday Dmitri (10 Gorffennaf 2007). "God Is Not Great" author, Christopher Hitchens talks about religion, politics, and becoming an American. Greater Talent Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Rhagfyr 2007.
  8. (Saesneg) Peters, Jeremy (30 Mehefin 2010). in-cancer-treatment/ Christopher Hitchens to Begin Cancer Treatment. The New York Times.