Legio XV Apollinaris

Oddi ar Wicipedia
Carreg fedd y canwriad Titus Calidius o Legio XV Apollinaris yn Carnuntum.

Lleng Rufeinig oedd Legio XV Apollinaris. Ffurfiwyd y lleng gan Octavianus, yn ddiweddarach yr ymerawdwr Augustus, yn 41 CC neu 40 CC, a chynerodd ei henw o enw'r duw Apollo.

Ymladdodd tros Octavianus yn y rhyfel cartref, ac wedi mrwydr Actium yn 31 CC, pan orchfygwyd Marcus Antonius, trosglwyddwyd hi i Illyricum. O 9 O.C. ymlaen, roedd yn nhalaith newydd Pannonia, efallai yn Emona, yna o 14 ymlaen yn Carnuntum. Gyda Legio VIII Augusta a Legio IX Hispana, anogwyd y lleng i wrthryfela gan Percennius pan ddaeth y newydd am farw Augustus, ond perswadiwyd hwy i roi ei teyrngarwch i'r ymerawdwr newydd, Tiberius, gan ei fab, Drusus minor.

Yn 62 neu 63 gyrrwyd y lleng i Syria. Bu ganddi ran yn yr ymgyrch yn erbyn gwrthryfel yr Iddewon, a ddechreuodd yn 66; ymladdodd dan Vespasian ac yn nes ymlaen dan ei fab Titus. Wedi diwedd y gwrthryfel, dychwelodd i ardal afon Donaw. Ymladdodd yn erbyn y Parthiaid dan yr ymerawdwr Trajan. Yn ddiweddarach, symudwyd hi i Satala yn nhalaith Cappadocia.

Yn 175, gwrthryfelodd llywodraethwr Syria, Avidius Cassius, yn erbyn yr ymerawdwr Marcus Aurelius. Daliodd y lleng yn deyrngar i'r ymerawdwr, a chafodd yr enw ychwanegol Pia Fidelis.