Legio XV Primigenia

Oddi ar Wicipedia

Lleng Rufeinig oedd Legio XV Primigenia ("Y Cyntafanedig"). Ffurfiwyd y lleng gan yr ymerawdwr Caligula yn 39 O.C..

Ffurfiwyd y lleng yma a Legio XXII Primigenia gan Caligula ar gyfer ymgyrch newydd yn yr Almaen. Daw'r enw "Primigenia" o um o enwau'r dduwies Fortuna. Wedi'r ymgyrch yma, lleolwyd y lleng ym Mogontiacum (Mainz heddiw). Yn 43, symudwyd hi i Castra Vetera (Xanten heddiw), gyda Legio V Alaudae. Yn 47, ymladdodd dan Corbulo yn erbyn y Ffrisiaid.

Yn 69, Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, cefnogodd y lleng Vitellius fel ymerawdwr, fel y gweddill o'r llengoedd ar afon Rhein. Gyrrwyd rhan o'r lleng i'r Eidal i'w gefnogi, ond wedi iddo gael ei orchfygu gan Vespasian, gyrrwyd hi yn ôl i'r Almaen. Pan wrthryfelodd y Batafiaid yr un flwyddyn, rhoddwyd gwarechae ar Castra Vetera gan fyddin Julius Civilis, ac ym Mawrth 70 ildiodd y gaer iddo ar addewid y byddai'r milwyr yn cael gadael y gwersyll yn ddiogel. Torrwyd yr addewid, fodd bynnag, a lladdwyd tua 5,000 o filwyr y 5ed a'r 15fed lleng gan y Batafiaid. Penderfynodd Vespasian beidio ail-ffurfio'r lleng.