Legio IV Macedonica

Oddi ar Wicipedia
Carreg derfyn o Sbaen, yn nodi'r ffîn rhwng tiroedd dinas Juliobriga a thiroedd Legio IV Macedonica

Lleng Rufeinig oedd Legio IV Macedonica. Ffurfiwyd y lleng gan Iŵl Cesar yn 48 CC yn yr Eidal. Ei symbolau oedd y tarw a'r capricorn.

Ymladdodd y lleng dros Cesar yn erbyn Pompeius ym mrwydrau Dyrrhachium a Pharsalus. Wedi diwedd y rhyfel cartref, symudodd y lleng i dalaith Macedonia, lle cafodd ei henw.

Ymladdodd y lleng dros Augustus (Octavianus bryd hynny) ym Mrwydr Philippi yn erbyn llofruddion Iŵl Cesar ac ym Mrwydr Actium yn erbyn Marcus Antonius. Wedi diwedd y rhyfeloedd hyn, gyrrodd Augustus y lleng i Hispania Tarraconensis yn 30 CC. Yn 43 O.C., trosglwyddwyd y lleng i dalaith Germania Superior, i gymeryd lle XIV Gemina fel garsiwn Moguntiacum (Mainz heddiw). Cefnogodd y lleng Vitellius, llywodraethwr Germania Superior, yn ei ymgais llwyddiannus i ddod yn ymerawdwr yn 69, Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr.

Wedi i Vespasian orchfygu Vitellius, buont yn ymladd yn erbyn y Batafiaid oedd wedi gwrthryfela. Yn 70, chwalodd Vespasian y lleng, gan ei hail-greu fel Legio IIII Flavia Felix.