Cerys Matthews

Oddi ar Wicipedia
Cerys Matthews
Ganwyd11 Ebrill 1969 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethartist stryd, canwr, cyfansoddwr caneuon, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.cerysmatthews.co.uk Edit this on Wikidata

Cantores yw Cerys Elizabeth Matthews (ganwyd 11 Ebrill 1969). Cafodd ei geni yng Nghaerdydd ond yr oedd cysylltiad cryf â Sir Benfro gan y teulu. Hi oedd prif leisydd y band Catatonia nes i'r grŵp wahanu ym mis Medi 2001. Yn dilyn hyn, symudodd i Nashville, Tennessee yn haf 2002 lle cyfarfu â Bucky Baxter, a gweithiodd gyda Matthews ar ei halbwm Cockahoop.

Ymddangosodd ar gyfres deledu ITV I'm a Celebrity…Get Me Out of Here! lle treuliodd gyfnod yn y jwngwl yn Awstralia. Daeth yn bedwerydd yn y gystadleuaeth.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yng Nghaerdydd, yr ail o bedwar o blant. Symudodd y teulu i Abertawe pan oedd yn saith oed. Bu'n ddisgybl yn ysgol breifat St Michael's yn Llanelli ac ysgol uwchradd yn Abergwaun.[1] Mae'n rhugl yn y Gymraeg, Saesneg, Sbaeneg a Ffrangeg.[2] Ei harwres yn ystod ei phlentyndod oedd Pipi Hosan Hir a'r beirdd William Butler Yeats a Dylan Thomas.[3][4][5][6][7]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn ystod haf 1992 ffurfiwyd Catatonia - ar ôl i Mark Roberts gyfarfod Cerys yn canu ar y stryd yng Nghaerdydd yn ôl y chwedloniaeth. Cawsant gynnig recordio ar y label Crai a threulio'r blynyddoedd nesaf yn teithio a chwarae mewn gigs o gwmpas Cymru.

Cyhoeddwyd albwm cyntaf Catatonia, Way Beyond Blue yn 1996 gan roi cyfle ehangach i bobl glywed y rîffs gitâr popaidd a'i llais swynol ac unigryw. Ei llwyddiant mawr cyntaf oedd y sengl 'You've Got a Lot to Answer For'.

Yn 1998 cyrhaeddodd y sengl 'Mulder and Scully' y pump uchaf yn y siartiau yn y DU ac fe ddilynodd 'Road Rage' yn fuan wedyn. Mae'r ddwy gân ar yr albwm boblogaidd iawn, International Velvet ac fe fu Cerys am gyfnod yn Frenhines Bop yn ymddangos ar dudalennau blaen cylchgronau poblogaidd.

Yn 1999, cyhoeddwyd albwm boblogaidd arall sef Equally Cursed and Blessed a sylfaen apêl Catatonia oedd carisma Cerys, y caneuon pop llwyddiannus a pherfformiadau byw cryf iawn. Pan ryddhawyd yr albwm nesaf yn 2001 Paper Scissors Stone trefnwyd taith yr un pryd. Ond gohiriwyd y daith gan i Cerys adael y band ar sail blinder a phoen meddwl.

Yn 2002 recordiodd Cerys y thema i'r gyfres deledu i blant, 'Sali Mali' a threulio rhan o'r flwyddyn yn Nashville Tennessee gyda'i darpar ŵr yn paratoi albwm o ganeuon gwerin a gwlad. Cyhoeddwyd yr albwm Cockahoop ar 19 Mai 2003 sy'n gymysgedd o'r gwerin, gwlad a chaneuon gwreiddiol gan Cerys heb anghofio emyn Gymraeg.

Yn 2007, cyhoeddodd Cerys Matthews ei bod hi a'i gŵr yn ysgaru, a symudodd hi a'i dau o blant yn ôl i Gymru. Yn Nhachwedd 2007, roedd yn ôl yn y penawdau unwaith eto pan ddaeth yn bedwerydd yn y gyfres deledu realiti 'I'm A Celebrity ... Get Me Out Of Here.'

Erbyn hyn mae Cerys yn cyflwyno rhaglenni cerddoriaeth ar BBC 6 Music ac yn parhau i ryddhau albymau yn y Gymraeg a'r Saesneg yn cynnwys Never Said Goodbye, (2006), Paid Edrych i Lawr (2009) a Don't Look Down (2009.) Yn 2010 rhyddhawyd ei halbwm, Tir, casgliad o ganeuon Cymraeg traddodiadol yn cynnwys 'Calon Lân', 'Cwm Rhondda', 'Migldi-Magldi', 'Myfanwy' a 'Sospan Fach'. Dyma'r drydedd albwm iddi ryddhau o dan ei label ei hun "Rainbow City."

Ym Mai 2011 cyhoeddodd yr albwm, Explorer. Y tro hwn, defnyddiodd dechneg tra gwahanol tra'n recordio. Penderfynodd y byddai'n recordio'r albwm heb unrhyw fformat na sain a baratowyd o flaen llaw ond yn hytrach, gadael i'r elfen 'fyrfyfyr' arwain y gwaith. Cyhoeddwyd llyfr i blant ganddi o'r enw Tales From the Deep, hefyd yn 2011.

Disgograffiaeth[golygu | golygu cod]

Albymau[golygu | golygu cod]

Cockahoop DU #30 (Blanco Y Negro - 2003)
1. Chardonnay
2. Caught In The Middle
3. Louisiana
4. Weightless Again
5. Only A Fool
6. La Bague
7. ...Interlude...
8. Ocean
9. Arglwydd Dyma Fi
10. If You're Lookin' For Love
11. The Good In Goodbye
12. Gypsy Song
13. All My Trials

Never Said Goodbye (Rough Trade - 2006)
1. Streets Of New York
2. A Bird In Hand
3. Oxygen
4. Open Roads
5. This Endless Rain
6. Blue Light Alarm
7. Morning Sunshine
8. Seed Song
9. What Kind Of Man
10. Ruby
11. Elen

  • Awyren = Aeroplane (mini-album) (My Kung Fu 030 – 2007)
  • Don't Look Down (Rainbow City Recordings – 2009)
  • Tir (Rainbow City Recordings – 2010)
  • Explorer (Rainbow City Recordings – 2011)
  • Baby It's Cold Outside (Rainbow City Recordings − 2012)
  • Hullabaloo (Rainbow City Recordings – 2013)
  • Dylan Thomas : A Child's Christmas, Poems and Tiger Eggs (Marvels of the Universe – 2014)

Senglau[golygu | golygu cod]

  • 1998 "The Ballad of Tom Jones" (gyda Space) DU #4
  • 1999 "Baby, It's Cold Outside" (gyda Tom Jones) UK #17
  • 2003 "Caught In The Middle" DU #47
  • 2006 "Open Roads" DU #53
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Biography". cerysmatthews.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-02. Cyrchwyd January 29, 2014.
  2. Paul, Chris. "Cerys Matthews". Beat Review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-03. Cyrchwyd 2014-04-25.
  3. "BBC Radio 4 - The Strongest Girl in the World". Bbc.co.uk. 2010-09-16. Cyrchwyd 2014-04-25.
  4. "Dylan Thomas". BBC. 1970-01-01. Cyrchwyd 2014-04-25.
  5. Moore, Dylan. "Cerys Matthews". Wales Arts Review. Cyrchwyd 2014-04-25.
  6. "Cerys Matthews: A star is reborn". The Independent. 22 July 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-26. Cyrchwyd 2016-03-04.
  7. "Expectant Cerys home for birth". BBC News. 7 August 2003.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Proffil Cerys Matthews gan BBC Cymru