Ynysoedd Bach

Oddi ar Wicipedia
Ynysoedd Bach
Mathgrŵp o ynysoedd, plwyf sifil yn yr Alban Edit this on Wikidata
Poblogaeth153 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLochaber Edit this on Wikidata
SirCyngor yr Ucheldir, Swydd Inverness, Lochaber Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd15,586 ha Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.981282°N 6.314995°W Edit this on Wikidata
Map

Ynysoedd sy'n rhan o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw'r Ynysoedd Bach (Gaeleg: Na h-Eileanan Beaga, Saesneg Small Isles).

Saif y grŵp yma o ynysoedd i'r de o ynys An t-Eilean Sgitheanach (Skye) ac i'r gogledd o ynys Muile. Maent yn rhan o Lochaber yn ardal cyngor Ucheldir.

Ceir pedair ynys o faint gweddol, Rùm, y fwyaf o'r ynysoedd gydag arwynebedd o 105 km2, Eigg, Muck a Canna. Ymysg yr ynysoedd llai mae Sanday, Ynys y Ceffylau, Hyskeir, Garbh Sgeir, Humla, Eilean Chathastail, Dubh Sgeir ac Eagamol.

Ceir cysylltiad fferi a Mallaig ar y tir mawr.

Lleoliad Rum, y fwyaf o'r Ynysoedd Bach, mewn coch.