Jonathan Ross

Oddi ar Wicipedia
Jonathan Ross
GanwydJonathan Stephen Ross Edit this on Wikidata
17 Tachwedd 1960 Edit this on Wikidata
St Pancras Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Solent Southampton
  • Coleg Prifysgol Llundain
  • UCL School of Slavonic and East European Studies
  • Norlington School for Boys
  • Leyton Sixth Form College Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyflwynydd teledu, newyddiadurwr, cyflwynydd radio, actor ffilm, sgriptiwr, beirniad ffilm, actor teledu, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
MamMartha Ross Edit this on Wikidata
PriodJane Goldman Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Cyflwynydd teledu a radio Seisnig yw Jonathan Stephen Ross OBE (ganed 17 Tachwedd 1960 yn Llundain), neu "Wossy", sydd wedi ennill gwobrau BAFTA. Daeth i amlygrwydd gyntaf yn yr 1980au gyda'i sioe siarad The Last Resort with Jonathan Ross ar Channel 4. Aeth ymlaen i wneud sawl rhaglen i'r BBC gan gyflwyno The Film Programme rhwng 1999 a 2010, sioe siarad wythnosol Friday Night with Jonathan Ross rhwng 2001 a 2010, a sioe radio ar BBC Radio 2 rhwng 1999 a 2010. Gadawodd y BBC yn 2010 a cychwynnodd ei sioe siarad newydd ar ITV yn Medi 2011.

The Russell Brand Show ac Andrew Sachs[golygu | golygu cod]

Gwaharddwyd Ross o'i waith ar y 18fed o Hydref, 2008 wedi iddo ymddangos ar sioe y digrifwr Russell Brand. Tra ar The Russell Brand Show, gwnaeth Ross a Brand gyfres o alwadau ffôn i'r actor 78 mlwydd oed Andrew Sachs, gan adael negeseuon ar ei beiriant ateb. Prin oedd y diddordeb i ddechrau, ond cafwyd erthyglau papur newydd am y nifer uchel o gwynion a wnaed. Ymddiswyddodd Brand o'r BBC a gwaharddwyd Ross o'i swydd yn ddi-dâl am 12 wythnos gan ddechrau ar y 29ain o Hydref. Dywedodd Uwch-Gyfarwyddwr y BBC, Mark Thompson y dylai Ross ystyried y camau disgyblu hyn fel ei gyfle olaf.

Ar yr 21ain o Dachwedd 2008, dywedodd Ymddiriedolaeth y BBC fod y galwadau ffôn yn "deplorable intrusion with no editorial justification"[1] Cefnogodd yr ymddiriedolaeth gwaharddiad 12 wythnos Ross ond argymhellwyd na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach yn ei erbyn. Dychwelodd Ross i'w waith yn Ionawr 2009 a darlledwyd y rhaglen gyntaf o Friday Night With Jonathan Ross ar y 23ain o Ionawr 2009. Y gwestai oedd Tom Cruise, Stephen Fry a Lee Evans, a chafwyd cerddoriaeth gan y band Franz Ferdinand.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.