Albert Uderzo

Oddi ar Wicipedia
Albert Uderzo
FfugenwUderzo Edit this on Wikidata
GanwydAlberto Aleandro Uderzo Edit this on Wikidata
25 Ebrill 1927 Edit this on Wikidata
Fismes Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mawrth 2020 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Neuilly-sur-Seine Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd comics, arlunydd, sgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm, lliwiwr, darlunydd, drafftsmon, artist Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAsterix films, Tanguy et Laverdure, Oumpah-pah Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadEdmond Calvo Edit this on Wikidata
PlantSylvie Uderzo Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommandeur des Arts et des Lettres‎, Officier de la Légion d'honneur, Grand prix de la ville d'Angoulême, Marchog Urdd y Llew Iseldiraidd, Max & Moritz Prize, French Excellence Award, Will Eisner Hall of Fame, honorary citizen of Brussels Edit this on Wikidata
llofnod

Darlunydd llyfrau comig ac ysgrifennwr sgript Ffrengig oedd Albert Uderzo (25 Ebrill 192724 Mawrth 2020)[1]. Adnabyddir ef orau am ei waith ar gyfres comics Astérix, ond darluniodd gomics eraill yn ogystal, megis Oumpah-pah, a oedd hefyd yn waith ar y cyd gyda René Goscinny.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Alberto Aleandro Uderzo yn Fismes (Marne, Ffrainc), yn fab i Silvio ac Iria, a oedd wedi ymfudo o'r Eidal yn ddiweddar cyn ei eni. Daw ei enw o bentref Eidaleg, Oderzo (Uderzo gynt), ble gellir dilyn ei goeden deulu. Fel plentyn, ei uchelgais oedd i ddod yn beiriannydd awyrennau, er roedd ei allu ym maes celf yn amlwg o oedran cynnar.

Cafodd Uderzo ddinasyddiaeth Ffrengig yn 1934, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gadawodd Paris am Lydaw tra'n ei arddegau, yno gweithiodd ar fferm a helpu ym musnes dodrefn ei dad. Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd yn bryd dewis lleoliad ar gyfer pentref Asterix, fe adawodd Goscinny y penderfyniad i Uderzo, a oedodd dim cyn dewis Llydaw.

Cychwynnodd Uderzo yrfa llwyddiannus fel arlunydd ym Mharis ar ôl y rhyfel yn 1945, gan greu gweithiau megis Flamberge a Clopinard, hen ddyn bychain â un coes a oedd yn ennill dros pob anhawster. Yn 1947-48 fe creodd gomics eraill, megis Belloy ac Arys Buck.

Gweithio gyda Goscinny[golygu | golygu cod]

Yn ystod gweithio a theithio dros y blynyddoedd canlynol, cyfarfodd â René Goscinny yn 1951. Daeth y pâr yn ffrindiau da'n fuan, a penderfynont gweithio â'u gilydd yn 1952 yn swyddfa newydd y cwmni Belgaidd, World Press, ym Mharis. Eu creadigaethau cyntaf oedd Oumpah-pah, Jehan Pistolet a Luc Junior.[2][3] Yn 1958, fe addasont Oumpah-pah ar gyfer ei gyhoeddi ar ffurf cyfres o stribedi comig yng nghylchgrawn Tintin, er, rhedwyd ond hyd 1962.[4] Yn 1959, daeth Goscinny yn olygydd ac Uderzo yn gyfarwyddwr celfydd Pilote, menter newydd wedi ei anelu at blant hŷn. Fe gyflwynodd rhifyn cyntaf y cylchgrawn gymeriad Astérix i'r byd Ffrengig, ac roedd yn llwyddiant o'r cychwyn.[2][5] Yn ystod y cyfnod hwn, fe gydweithiodd Uderzo yn ogystal gyda Jean-Michel Charlier ar gyfres realistig Michel Tanguy, a ail-enwyd yn ddiweddarach yn Les Aventures de Tanguy et Laverdure.[2]

Roedd Astérix ar ffurf cyfres yn Pilote, ond fe gyhoeddwyd yr albwm cyntaf yn 1961, cyhoeddwyd albwm Astérix le gaulois (Asterix y Gâl) fel llyfr unigol. Erbyn 1967, roedd y comig wedi dod mor boblogaidd y penderfynnodd y pâr i neilltuo eu holl amser i'r gyfres. Wedi marwolaeth cynnar Goscinny yn 1977, fe gariodd Uderzo ymlaen i ysgrifennu a darlunio'r llyfrau ar ei ben ei hun, ond gweithiodd yn arafach, gan gyhoeddi llyfr pob 3-5 mlynedd i gymharu â'r 2 albwm y flwyddyn a gyhoeddwyd ynghyd â Goscinny. Mae'r credyd ar y clawr yn dal i ddweud "Goscinny ac Uderzo".

Teulu[golygu | golygu cod]

Cafodd Uderzo ferch, Sylvie Uderzo gyda'i wraig Ada. Yn ôl The Book of Asterix the Gaul, mae rhai yn dyfalu y seiliodd Uderzo gymeriadau Panacea a Zaza ar Ada a Sylvie, ond roedd Uderzo ei hun yn gwadu hyn.

Cyflwynwyd llyfr Le ciel lui tombe sur la tête (Mae'r nen yn disgyn ar ei ben) er cof am ei frawd, Bruno Uderzo (1920-2004).

Achos llys yn yr Almaen[golygu | golygu cod]

Cododd ymryson yn yr Almaen, lle roedd cwmni cyhoeddi Albert Uderzo, Les Éditions Albert René, yn honni fod rhai cwmnioedd technoleg cyfrifiadurol sydd â'u henwau yn orffen â "ix" (nid yn anghyffredin gyda cwmnioedd sy'n gweithio gyda system Unix) yn niweidio brandiau "Asterix" ac "Obelix".[6]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Yn ôl y wybodaeth sydd ar gael yn Index Translationum UNESCO, Uderzo yw'r 10fed awdur i gael ei gyfieithu amlaf o'r Ffrangeg, a'r trydydd amlaf yng nghomigion ffrangeg tu ôl i René Goscinny a Hergé.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Albert Uderzo: Asterix co-creator and illustrator dies aged 92 , BBC News, 24 Mawrth 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2  Lambiek Comiclopedia. Albert Uderzo.
  3.  Lagardère. Release of the 33rd Asterix volume.
  4.  Albert Uderzo. Asterix International!.
  5. (Ffrangeg) BDoubliées. Pilote année 1959.
  6.  Trademark Trouble: Obelix versus MobiliX.
  7. "Index Translationum French top 10". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-13. Cyrchwyd 2008-10-21.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: