Huw Pennant (Gwynedd)

Oddi ar Wicipedia
Huw Pennant
Ganwyd16 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1565 Edit this on Wikidata
Erthygl am y bardd o Wynedd yw hon. Gweler hefyd Huw Pennant (Sir y Fflint).

Bardd o blwyf Llanfihangel-y-Pennant yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) oedd Huw Pennant (fl. 1565 - 1619). Mae ei waith yn perthyn i gyfnod olaf Beirdd yr Uchelwyr.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Bardd proffesiynol oedd Huw Pennant. Roedd yn frodor o blwyf Llanfihangel-y-Pennant, Cwm Pennant, ac felly cafodd ei adnabod fel Huw Pennant. Dysgodd ei grefft fel disgybl barddol i'r bardd Morys Dwyfech. Cofnodir iddo raddio yn Eisteddfod Caerwys 1567.

Cedwir sawl cerdd ganddo yn y llawysgrifau, yn awdlau, cywyddau ac englynion. Ymddengys ei fod yn cyfyngu ei deithiau clera i'r hen Sir Gaernarfon: roedd ei noddwyr yn cynnwys teuluoedd uchelwrol yn Arfon, Llŷn ac Eifionydd.