Afon Dulais (Castell-nedd Port Talbot)

Oddi ar Wicipedia
Afon Dulais
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6802°N 3.778°W Edit this on Wikidata
AberAfon Nedd Edit this on Wikidata
Map
Afon Dulais yn Aberdulais.

Afon ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot yn ne Cymru, sy'n llifo i mewn i Afon Nedd, yw Afon Dulais.

Mae'n tarddu ar lechweddau deheuol Mynydd y Drum, i'r gorllewin o Onllwyn, lle mae nifer o nentydd yn cyfarfod. Mae'n llifo tua'r de-orllewin heibio Blaendulais, Tre-Forgan, Y Creunant, Cil-ffriw ac Aberdulais, lle mae'n ymuno ag Afon Nedd.

Fel mae'r Dulais yn agosau at y Nedd, mae'n disgyn i raeadr ysblenydd Rhaeadrau Aberdulais, atyniad twristiaeth poblogaidd a safle hen weithfeydd haearn.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato