A525

Oddi ar Wicipedia
A525
Enghraifft o'r canlynolffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthSwydd Stafford, Swydd Gaer, Swydd Amwythig Edit this on Wikidata
Hyd73 milltir Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr A525 yn croesi Afon Clwyd fel Ffordd osgoi Rhuddlan

Priffordd yng ngogledd-ddwyrain Cymru a rhan o Loegr yw'r A525. Mae'n cysylltu'r Rhyl a Newcastle-under-Lyme yn Lloegr.

O'r Rhyl, mae'n arwain tua'r de, ac yn troi'n ffordd osgoi ddeuol heibio Rhuddlan. Wedi croesi'r A55 ger Llanelwy, mae'n dilyn Afon Clwyd tua'r de, ychydig i'r gorllewin o'r afon. Ychydig i'r de o Rhuthun, mae'n troi tua'r dwyrain, ac yn mynd trwy Wrecsam cyn croesi'r ffîn i Loegr ychydir i'r gorllewin o'r Eglwys Wen yn Swydd Amwythig. Wedi cyd-redeg a'r A41 am ychydig ar hyd ffordd osgoi'r Eglwys Wen, mae'n ymwahanu ac yn arwain i'r dwyrain a'r gogledd-ddwyrain i groesi'r M6 a chyrraedd Newcastle-under-Lyme, lle mae'n ymuno a'r briffordd A34.

Trefi a phentrefi ar yr A525[golygu | golygu cod]