Gene Wilder

Oddi ar Wicipedia
Gene Wilder
GanwydJerome Silberman Edit this on Wikidata
11 Mehefin 1933 Edit this on Wikidata
Milwaukee Edit this on Wikidata
Bu farw29 Awst 2016 Edit this on Wikidata
o clefyd Alzheimer Edit this on Wikidata
Stamford, Connecticut Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Iowa
  • Ysgol Theatr Old Vic, Bryste
  • Washington High School
  • HB Studio
  • Black-Foxe Military Institute Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, cyfarwyddwr ffilm, digrifwr, actor teledu, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan, dyddiadurwr, sgriptiwr, ysgrifennwr, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
PriodGilda Radner Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrimetime Emmy Award for Outstanding Guest Actor in a Comedy Series, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Clarence Derwent Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.genewilder.net Edit this on Wikidata
llofnod

Actor, awdur a digrifwr Americanaidd oedd Jerome Silberman, a adwaenir yn broffesiynol fel Gene Wilder (11 Mehefin 193329 Awst 2016).[1]

Cychwynnodd Wilder ei yrfa ar lwyfan a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar sgrîn yn y gyfres deledu Armstrong Circle Theatre yn 1962. Ei rhan cyntaf ar ffilm oedd portreadu gwystl yn y ffilm Bonnie and Clyde (1967), ei brif rhan cyntaf oedd fel Leopold Bloom yn y ffilm film The Producers (1968) a cafodd enwebiad Gwobrau Academi am yr Actor Cefnogol Gorau. Dyma oedd y cyntaf o sawl cydweithrediad gyda'r ysgrifennwr/cyfarwyddwyr Mel Brooks, yn cynnwys Blazing Saddles (1974) a Young Frankenstein, a cyd-ysgrifennwyd gan Wilder, gan ennill enwebiad Gwobrau'r Academi i'r ddau am Sgript Ffilm Addasiedig Gorau. Roedd Wilder yn adnabyddus am ei bortread o Willy Wonka yn Willy Wonka & the Chocolate Factory (1971) a'i bedwar ffilm gyda Richard Pryor: Silver Streak (1976), Stir Crazy (1980), See No Evil, Hear No Evil (1989), a Another You (1991). Cyfarwyddodd ac ysgrifennodd Wilder sawl ffilm ei hun yn cynnwys The Woman in Red (1984).

Ei drydydd gwraig oedd yr actores Gilda Radner, a serennodd gyda hi mewn tri ffilm. O ganlyniad i'w marwolaeth o ganser yr ofari, daeth yn weithgar gyda chodi ymwybyddiaeth o ganser a'i driniaeth gan helpu i ffurfio Canolfan Canfod Canser Ofaraidd Gilda Radner yn Los Angeles a cyd-ffurfio Gilda's Club.

Yn dilyn ei gwaith actio mwyaf diweddar yn 2003, trodd Wilder ei sylw at ysgrifennu. Ysgrifennodd gofiant yn 2005, Kiss Me Like a Stranger: My Search for Love and Art; casgliad o storiau, What Is This Thing Called Love? (2010); a'r nofelau My French Whore (2007), The Woman Who Wouldn't (2008) a Something to Remember You By (2013).

Gwaith[golygu | golygu cod]

Ffilm[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1966 Death of a Salesman Bernard Teledu
1967 Bonnie and Clyde Eugene Grizzard
1968 The Producers Leo Bloom Enwebwyd – Gwobrau'r Academi ar gyfer Actor Cefnogol Gorau
1970 Start the Revolution Without Me Yr efeilliaid Claude a Philippe
Quackser Fortune Has a Cousin in the Bronx Quackser Fortune
1971 Willy Wonka & the Chocolate Factory Willy Wonka Enwebwyd – Gwobr Golden Globes ar gyfer Actor Gorau - Ffilm Gomedi neu Gerddorol
1972 Everything You Always Wanted to Know About Sex* (*But Were Afraid to Ask) Dr. Doug Ross
The Scarecrow Lord Ravensbane/The Scarecrow Teledu
1974 Rhinoceros Stanley Seiliwyd ar ddrama Eugène Ionesco Rhinoceros
Blazing Saddles Jim, "The Waco Kid"
The Little Prince The Fox
Thursday's Game Harry Evers Teledu
Young Frankenstein Dr. Frederick Frankenstein Enwebwyd – Gwobrau'r Academi ar gyfer Ysgrifennu Sgript Ffilm Addasiedig
1975 The Adventure of Sherlock Holmes' Smarter Brother Sigerson Holmes Hefyd cyfarwyddwr ac awdur
1976 Silver Streak George Caldwell Enwebwyd – Gwobr Golden Globes am Actor Gorau - Ffilm Gomedi neu Sioe Gerdd
1977 The World's Greatest Lover Rudy Valentine, aka Rudy Hickman Hefyd cynhyrchydd, cyfarwyddwr ac awdur
1979 The Frisco Kid Avram Belinski
1980 Sunday Lovers Skippy Cyfarwyddodd y darn "Skippy"
Stir Crazy Skip Donahue
1982 Hanky Panky Michael Jordon
1984 The Woman in Red Teddy Pierce Hefyd cyfarwyddwr ac awdur
1986 Haunted Honeymoon Larry Abbot Hefyd cyfarwyddwr ac awdur
1989 See No Evil, Hear No Evil Dave Lyons Hefyd awdur
1990 Funny About Love Duffy Bergman
1991 Another You George/Abe Fielding
1999 Murder in a Small Town Larry "Cash" Carter Teledu; cyd-ysgrifennwyd gyda Gilbert Pearlman
Alice in Wonderland The Mock Turtle
The Lady in Question Larry "Cash" Carter Teledu; cyd-ysgrifennwyd gyda Gilbert Pearlman

Teledu[golygu | golygu cod]

  • Llais ar gyfer darn The Electric Company' o The Adventures of Letterman (60 pennod, 1972–1977)
  • Something Wilder (1994–1995)
  • Will & Grace Penodau "Boardroom and a Parked Place" (2002) a "Sex, Losers & Videotape" (2003); (Seren wadd – Mr. Stein)

Llwyfan[golygu | golygu cod]

  • The Complaisant Lover (Broadway, 1962)
  • Mother Courage and Her Children (Broadway, 1963)
  • One Flew Over the Cuckoo's Nest (Broadway, 1963)
  • The White House (Broadway, 1964)
  • Luv (Broadway, 1966)
  • Laughter on the 23rd Floor (Llundain, 1996)

Rhaglenni dogfen[golygu | golygu cod]

  • "Expo: Magic of the White City" (2005)

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Piver, M. Steven and Gene Wilder. Gilda's Disease: Sharing Personal Experiences and a Medical Perspective on Ovarian Cancer. Broadway Books, 1998. ISBN 0-7679-0138-X
  • Wilder, Gene. Kiss Me Like a Stranger: My Search for Love and Art. St. Martin's Press, 2005. ISBN 0-312-33706-X
  • Wilder, Gene. My French Whore. St. Martin's Press, 2007. ISBN 0-312-36057-6
  • Wilder, Gene. The Woman Who Wouldn't. St. Martin's Press, 2008. ISBN 0-312-37578-6
  • Wilder, Gene. What Is This Thing Called Love?. St. Martin's Press, 2010. ISBN 978-0-312-59890-7
  • Wilder, Gene. Something to Remember You By. St. Martin's Press, 2013. ISBN 9780312598914

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Willy Wonka star Gene Wilder dies (en) , BBC News, 29 Awst 2016.