Hasdrubal Hardd
Jump to navigation
Jump to search
Hasdrubal Hardd | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
270 CC ![]() Carthago ![]() |
Bu farw |
221 CC, 220 CC ![]() Cartagena ![]() |
Galwedigaeth |
person milwrol, gwleidydd ![]() |
Swydd |
llywodraethwr ![]() |
Perthnasau |
Hamilcar Barca, Hannibal, Hasdrubal, Mago ![]() |
Cadfridog Carthaginaidd oedd Hasdrubal Hardd (bu farw 221 CC).
Roedd Hasdrubal yn fab-yng-nghyfraith i Hamilcar Barca, a bu'n ymladd dan Hamilcar yn Sbaen, lle enillasant lawer o diriogaethau newydd i Carthago. Pan laddwyd Hamilcar mewn brwydr yn 228 CC, daeth Hasdrubal yn arweinydd y fyddin Garthaginaidd yn Sbaen.
Llwyddodd i ymestyn terfynnau'r ymerodraeth Garthaginaidd yn Sbaen, a sefydlodd ddinas Carthago Nova, Cartagena heddiw. Gwnaeth gytundeb a Gweriniaeth Rhufain i gymeryd Afon Ebro fel y ffîn rhwng tiriogaethau Carthago a Rhufain yn Sbaen.
Llofruddiwyd ef yn 221 CC, a chyhoeddodd y fyddin fab Hamilcar, Hannibal, yn arweinydd yn ei le.