Brwydr Alesia

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Alesia
Enghraifft o'r canlynolbrwydr, gwarchae Edit this on Wikidata
DyddiadMedi 52 CC Edit this on Wikidata
Rhan oy Rhyfeloedd yng Ngâl Edit this on Wikidata
DechreuwydGorffennaf 52 CC Edit this on Wikidata
Daeth i benMedi 52 CC Edit this on Wikidata
LleoliadAlesia Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cofgolofn Vercingetorix yn Alesia (Alise-Sainte-Rein)

Ymladdwyd Brwydr Alesia yn mis Medi 52 CC o gwmpas oppidum Alesia yng Ngâl rhwng byddin y cyngheiriaid Galaidd dan Vercingetorix o lwyth yr Arverni a byddin Rufeinig dan Iŵl Cesar, yn cael ei gynorthwyo gan Marcus Antonius a Titus Labienus.

Roedd Vercingetorix wedi ei benodi yn arweinydd y gwrthryfel Galaidd yn erbyn Rhufain. Enillodd fuddugoliaeth dros y Rhufeiniaid ym mrwydr Gergovia, ond pan ymosododd ar y Rhufeiniaid dan gredu eu bod yn encilio, dioddefodd y Galiaid golledion sylweddol.

Enciliodd Vercingetorix i Alesia, a gosododd Cesar warchae arno. Adeiladodd y Rhufeiniaid fur o amgylch y ddinas, gyda mur allanol i atal unrhyw ymgais gan y Galiaid tu allan i Alesia i godi'r gwarchae. Ceisiodd byddin fawr o nifer o lwythau godi'r gwarchae, ond gorchfygwyd hwy gan Cesar, a bu raid i Vercingetorix ildio. Cadwyd ef yn garcharor yn Rhufain am bum mlynedd cyn ei ddienyddio.

Brwydr Alesia oedd y frwydr fawr olaf rhwng y Galiaid a'r Rhufeiniaid, a chyda'r fuddugoliaeth yma cwblhaodd Cesar goncwest Gâl.