Lucius Cornelius Sulla

Oddi ar Wicipedia
Lucius Cornelius Sulla
Ganwyd138 CC Edit this on Wikidata
Rhufain hynafol Edit this on Wikidata
Bu farw78 CC Edit this on Wikidata
Puteoli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig, arweinydd milwrol, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr Rhufeinig, quaestor, Military tribune, Praetor, Conswl Rhufeinig, unben Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoloptimates Edit this on Wikidata
TadLucius Cornelius Sulla Edit this on Wikidata
MamUnknown Edit this on Wikidata
PriodJulia, Aelia, Cloelia, Caecilia Metella Dalmatica, Valeria Messalla Edit this on Wikidata
PartnerNicopolis, Metrobius Edit this on Wikidata
PlantCornelia, Faustus Cornelius Sulla, Fausta Cornelia, Cornelius Sulla, Cornelia Postuma Edit this on Wikidata
LlinachCornelii Sullae Edit this on Wikidata
Gwobr/auGrass Crown Edit this on Wikidata

Cadfridog, gwleidydd a dictator Rhufeinig oedd Lucius Cornelius Sulla Felix(tua 138 CC - 78 CC).

Roedd teulu Sulla, y Cornelii, o dras uchel, ond wedi mynd yn dlawd erbyn iddo ef gael ei eni. Dywedir iddo dreulio ei ieuenctid ymhlith pobl o safle gymdeithasol isel, yn enwedig actorion, ac iddo ddechrau carwriaeth a'r actor Metrobius a barhaodd trwy ei oes.

Yn 107 CC, penodwyd Sulla i swydd quaestor i gynorthwyo Gaius Marius, oedd wedi ei ethol yn gonswl am y flwyddyn. Cafodd Marius y dasg o arwain byddin Rhufain yn y rhyfel yn erbyn Jugurtha, brenin Numidia yng ngogledd Affrica. Llwyddodd i orchfygu Jugurtha, i raddau helaeth oherwydd i Sulla berswadio Bocchus, brenin Mauretania, i fradychu Jugurtha, oedd wedi ffoi ato am gymorth. Rhwng 104 CC a 101 CC bu'n ymladd gyda Marius yn erbyn llwythau Almaenig y Cimbri a'r Teutones, a bu ganddo ran amlwg ym muddugoliaeth Brwydr Vercellae.

Etholwyd ef i swydd Praetor urbanus yn 97 CC, a'r flwyddyn wedyn roedd yn pro consule talaith Cilicia (yn Anatolia). Dychwelodd i Rufain tua 93 CC, ac ochrodd gyda'r Optimates yn erbyn Gaius Marius. Yn 92 CC gyrrodd Sulla Tigranes Fawr, brenin Armenia, o Cappadocia.

Yn 91 CC dechreoudd Rhyfel y Cyngheiriaid (91–87 C) rhwng Rhufain a'i cyngheiriaid Eidalaidd, oedd yn ceisio gorfodi Rhufain i roi hawliau llawn iddynt. Enillodd Sulla nifer o fuddugoliaethau, yn cynnwys cipio Aeclanum. Yn 88 CC, etholwyd ef yn gonswl am y tro cyntaf. Wedi brwydr ger Nola, dyfarnwyd iddo y Corona Obsidionalis neu'r Corona Graminea ("Coron Laswellt"), a roddid i gadfridog Rhufeinig oedd wedi achub lleng neu fyddin trwy ei ddewrder personol mewn brwydr.

Roedd Sulla i fod i arwain byddin Rufeinig i'r dwyrain i ymladd yn erbyn Mithridates VI, brenin Pontus, ond roedd Marius, er ei fod bellach yn heneiddio, yn dymuno cymryd ei le. Bu ymladd yn Rhufain, a gadawodd Sulla y ddinas a ffoi at ei filwyr. Dychwelodd Sulla i Rufain gyda chwe lleng, a chipio grym. Ffodd Marius i Ogledd Affrica, ac yng ngwanwyn 87 CC glaniodd Sulla yn Dyrrachium i ddechrau ymgyrch yn erbyn Mithridates. Cipiodd ddinas Athen ac yn 86 CC enillodd frwydr fawr dros Archelaus, cadfridog Mithridates, ym Mrwydr Chaeronea, yna bu'n fuddugoliaethus eto ym Mrwydr Orchomenos.

Wedi i Sulla adael am y dwyrain, roedd Marius a Lucius Cornelius Cinna wedi cipio grym yn Rhufain, er i Marius farw yn fuan wedyn. Gwnaeth Sulla heddwch a Mithridates a dychwelyd i Rufain, lle gorchfygodd gefnogwyr Marius. Ar ddechrau 81 CC, apwyntiwyd Sulla i swydd dictator gan Senedd Rhufain, gan ddod yn feistr ar y ddinas a holl diriogaethau Rhufain heblaw Sbaen, lle roedd Quintus Sertorius wedi cipio grym. Dywedir i Sulla ddienyddio tua 1,500 o uchelwyr Rhufain, ac i tua 9,000 o bobl farw i gyd. Un o'r rhai a orfodwyd i ffoi o'r ddinas oedd Iŵl Cesar; roedd gwraig Marius yn fodryb iddo.

Bu Sulla yn gyfrifol am nifer o newidiadau, gan gynyddu maint y senedd o 300 aelod i 600, a'i gwneud yn amhosibl i neb oedd wedi dal swydd tribwn i ddal unrhyw swydd arall. Wedi bod mewn grym am ddwy flynedd, ymddiswyddodd Sulla fel dictator yn 79 CC er mawr syndod i bawb, ac aeth i fyw i'w fila ger Puteoli. Bu farw yno y flwyddyn ddilynol.