Legio VI Victrix

Oddi ar Wicipedia

Lleng Rufeinig a ffurfiwyd gan Octavianus yn 41 CC oedd Legio VI Victrix (Buddugol), weithiau Legio VI Hispaniensis. Roedd yn efaill i VI Ferrata ac efallai yn cynnwys cyn-filwyr o'r lleng honno.

Ymladdodd y lleng yn Perugia yn 41 CC, yna yn erbyn Sextus Pompeius yn Sicilia. Yn 31 CC ymladdodd ym Mrwydr Actium yn erbyn Marcus Antonius. Y flwyddyn ddilynol roedd yn Hispania Tarraconensis, lle bu'n ymladd yn erbyn y Cantabriaid.

Bu'r lleng yn Sbaen am bron ganrif. Cafodd yr enw Victrix dan Nero, ond roedd Nero yn amhoblogaidd yn y cylch, a phan benderfynodd llywodraethwr Hispania Tarraconensis, Servius Sulpicius Galba, wrthwynebu Nero, yng ngwersyll y VI Victrix y cyhoeddwyd ef yn ymerawdwr.

Yn 119, symudodd Hadrian y lleng i Brydain i ddelio a gwrthryfel yno. Yn 122 dechreuodd y lleng weithio ar adeiladu Mur Hadrian, ac yn 142 roedd ganddynt ran yn adeiladu Mur Antoninus.

Yn 185, gwrthryfelodd y llengoedd yng ngwledydd Prydain, a chynigiasant un o'u huchel-swyddogion, Priscus, fel ymerawdwr yn lle Commodus. Gwrthododd Priscus y cynnig, a rhoddwyd diwedd ar y gwrthryfel gan Pertinax, a ddaeth yn ymerawdwr ei hun yn nes ymlaen. Yn ystod y cyfnod yma roedd Lucius Artorius Castus yn gwasanaethu gyda'r Victrix, er na ymunodd ef yn y gwrthryfel.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]