Legio IX Hispana

Oddi ar Wicipedia

Lleng Rufeinig oedd Legio IX Hispana ("o Hispania"). Credir i'r lleng gael ei ffurfio gan Iŵl Cesar cyn 58 CC, ar gyfer ei ryfeloedd yng Ngâl.

Ymladdodd y lleng yn holl ymgyrchoedd Cesar yng Ngâl, yna ymladdasant drosto yn y rhyfeloedd cartref yn erbyn Pompeius. Roeddynt yn bresennol mewn nifer o'r brwydrau, yn cynnwys Brwydr Dyrrhachium a Brwydr Pharsalus (48 CC). Wedi i Cesar ennill y fuddugoliaeth, dadsefydlwyd y lleng a roddwyd tir i'r cyn-filwyr yn ardal Picenum.

Wedi i Cesar gael ei lofruddio, ail-ffurfiwyd y lleng gan Augustus i ymladd yn erbyn Sextus Pompeius. Yn ddiweddarach gyrrwyd hwy i Facedonia a buont yn ymladd dros Augustus yn erbyn Marcus Antonius ym Mrwydr Actium. Wedi i Augustus ennill grym, gyrrwyd y lleng i Hispania i ymladd yn erbyn y Cantabriaid; mae'n debyg mai yn yr ymgyrch yma y cawsant yr enw "Hispana".

Wedi hyn bu'r lleng yn gwarchod ffin Afon Rhein, yna yn Pannonia. Yn 43 roeddynt yn rhan o ymgyrch Rhufain yn erbyn Prydain, dan Aulus Plautius. Dan Quintus Petillius Cerialis dioddefasant golledion sylweddol yn ystod gwrthryfel Buddug yn 61. Credid am gyfnod fod y lleng wedi diflannu yng ngwledydd Prydain, efallai yn ystod brwydro yn yr Alban. Hyn yw cefndir y nofel The Eagle of the Ninth gan Rosemary Sutcliff, a nifer o nofelau eraill.