Sextus Julius Frontinus

Oddi ar Wicipedia
Sextus Julius Frontinus
Ganwydc. 30 Edit this on Wikidata
Gallia Narbonensis Edit this on Wikidata
Bu farw103, 103 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, gwas sifil, ysgrifennwr, peiriannydd sifil, peiriannydd, person milwrol, pensaer Edit this on Wikidata
Blodeuodd1 g Edit this on Wikidata
Swyddconsul suffectus, llywodraethwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDe aquaeductu, Strategemata Edit this on Wikidata
Plantmerch Sextus Julia Frontina Edit this on Wikidata

Roedd Sextus Julius Frontinus neu Julius Frontinus (c. 40-103) yn gadfridog Rhufeinig ac awdur yn yr iaith Ladin. Fel llywodraethwr Prydain bu'n gyfrifol am orchfygu llwyth y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru.

Yn y flwyddyn 70 roedd yn braetor, ac yn 75 penodwyd ef yn llywodraethwr Prydain i ddilyn Quintus Petillius Cerialis. Bu'n ymladd yn erbyn y Silwriaid, a llwyddodd i orchfygu'r llwyth hwnnw, oedd wedi gwrthwynebu Rhufain am bron 30 mlynedd. Sefydlodd ganolfan newydd yng Nghaerllion (Isca Silurum) i'r ail leng, Legio II Augusta, a rhwydwaith o gaerau llai. Dilynwyd ef gan Gnaeus Julius Agricola yn 78.

Yn 95 penodwyd ef i'r swydd o curator aquarum yn Rhufain, yn gyfrifol am gyflenwad dŵr i'r ddinas. Ysgrifennodd lyfr De aquis urbis Romae, yn rhoi disgrifiad o gyflenwad dŵr Rhufain, ei hanes a'i agweddau cyfreithiol. Un arall o'i weithiau oedd De re militari, llyfr ar faterion milwrol, nad yw wedi goroesi. Mae ei Strategematicon libri iii yn gasgliad o esiamplau o strategaeth filwrol o hanes Groeg a Rhufain, at ddefnydd swyddogion y fyddin. Credir iddo hefyd ysgrifennu ar fesur tir.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]