Dorothea Bate

Oddi ar Wicipedia
Dorothea Bate
Ganwyd8 Tachwedd 1878 Edit this on Wikidata
Tŷ Napier, Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ionawr 1951 Edit this on Wikidata
o coronary thrombosis Edit this on Wikidata
Westcliff-on-Sea Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethanthropolegydd, paleontolegydd, adaregydd, archeolegydd, swolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Amgueddfa Hanes Natur Llundain Edit this on Wikidata
Gwobr/auCronfa Wollaston, Cymrawd o Gymdeithas Ddaearegol Llundain Edit this on Wikidata

Paleontolegwr ac arloeswr sŵarcheoleg o Gymru oedd Dorothea Minola Alice Bate FGS (8 Tachwedd 187813 Ionawr 1951), a elwid hefyd yn Dorothy Bate. Gwaith ei bywyd oedd dod o hyd i ffosilau o famaliaid a ddiflannodd yn ddiweddar gyda'r bwriad o ddeall sut a pham esblygwyd ffurfiau cawraidd a corachaidd.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Sir Gaerfyrddin, roedd Bate yn ferch i Uwch-arolygydd Heddlu Henry Reginald Bate a'i wraig Elizabeth Fraser Whitehill. Roedd ganddi chwaer hŷn a brawd iau.[2] Ni chafodd llawer o addysg ffurfiol a dywedodd unwaith bod ei addysg "mond wedi ei dorri ar draws yn achlysurol gan ysgol".[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn 1898, yn bedwar ar bymtheg oed, cafodd Bate swydd yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain. Roedd yn didoli crwyn adar yn Ystafell Adar yr Adran Sŵoleg a pharatoi ffosilau yn ddiweddarach.[3] Yno arhosodd am bron i hanner can mlynedd gan ddysgu adareg, palaeontoleg, daeareg ac anatomeg. Roedd yn weithiwr ar dasg, yn cael ei thalu am y nifer o ffosilau roedd hi'n paratoi.[2]

Yn 1901 cyhoeddodd Bate ac ei phapur gwyddonol cyntaf, "A short account of a bone cave in the Carboniferous limestone of the Wye valley", a ymddangosodd yn y Geological Magazine, oedd yn sôn am esgyrn mamaliaid bach Pleistosenaidd.[2]

Yr un flwyddyn, ymwelodd â Cyprus, gan aros yno am dros 18 mis ar ei draul ei hun, i chwilio am esgyrn, gan ddod o hyd i ddeuddeg gwaddod newydd, mewn ogofâu esgyrnddwyn, yn eu plith esgyrn o Hippopotamus minor.[2] Yn 1902, gyda grant a enillwyd drwy ymdrech gan y Gymdeithas Frenhinol, mewn ogof ym mryniau Kyrenia darganfu rywogaeth newydd o eliffant corachaidd, a enwyd ganddi yn Elephas cypriotes, a ddisgrifiwyd yn ddiweddarach mewn papur ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol.[4][5] Tra yng Nghyprus arsylwodd hefyd (a daliodd, saethodd a blingodd[1]) famaliaid byw ac adar a paratôdd nifer o bapurau eraill, gan gynnwys disgrifiadau o Lygoden Bigog Cyprus (Acomys nesiotes) ac isrywogaeth o'r Dryw Ewrasiaidd (Troglodytes troglodytes cypriotes). Yn Cyprus, bu Bate yn lletya yn bennaf yn Paphos gyda Chomisiynydd Ardal o'r enw Wodehouse.[2] Pan nad oedd yn teithio mewn ardaloedd anghysbell, yn aml ar ei ben ei hun, roedd yn byw bywyd cymdeithasol llawn.[5]

Yn ddiweddarach aeth ar nifer o deithiau i sawl ynys ym Môr y Canoldir, yn cynnwys Creta, Corsica, Sardinia, Malta, ac yr Ynysoedd Balearig, gan gyhoeddi gwaith ar eu ffawna cynhanesyddol.[2] Yn ynysoedd y Balearig yn 1909, darganfu rhywogaeth Myotragus balearicus Caprinae, oedd yn anhysbys cyn hynny.[2] Ar lwyfandir Kat, yn nwyrain Creta, daeth o hyd i'r Afonfarch corachaidd Cretaidd.[6] Yn Creta, daeth i adnabod yr archeolegwyr oedd yn cloddio Knossos a safleoedd eraill ar yr ynys, oedd yn taflu goleuni ar y gwareiddiad Minoaidd,[1] megis Arthur Evans.

Wedi iddi cael ei aflonyddu'n rhywiol gan yr Is-Gennad Prydeinig yn Majorca, dywedodd Bate: "I do hate old men who try to make love to one and ought not to in their official positions."[7]

Yn y 1920au, gweithiodd Bate gyda'r archeolegydd Athro Dorothy Garrod ym Mhalestina, ac yn 1937 cyhoeddodd y ddau lyfr ar y cyd The Stone Age of Mount Carmel cyfrol 1, rhan 2: Palaeontology, the Fossil Fauna of the Wady el-Mughara, yn dehongli gwaith cloddio Mynydd Carmel.[2][8] Ymhlith y darganfyddiadau eraill, fe adroddodd y ddau ar weddillion yr afonfarch.[9]

Gweithiodd Bate gyda Percy R. Lowe hefyd, ar ffosilau estrys yn Tsieina.[2] Roedd hi'n swarcheolegydd arloesol, yn enwedig yn y maes dehongli hinsoddol.[3] Cymharodd gyfran cyfrannau cymharol weddillion y Gazella a Dama.[3]

Yn y 1930au hwyr, tua diwedd ei gyrfa gwaith maes, darganfu esgyn crwban mawr yn Bethlehem.[1]

Bywyd diweddarach, marwolaeth, etifeddiaeth[golygu | golygu cod]

Roedd llawer o archeolegwyr ac anthropolegwyr yn dibynnu ar ei harbenigedd yn adnabod esgyrn ffosilau, gan gynnwys Louis Leakey, Charles McBurney, a John Desmond Clark.[2]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, trosglwyddodd Bate o adran ddaeareg yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain i'w gangen sŵolegol yn Tring, ac yn 1948, ychydig fisoedd yn fyr o'i phen-blwydd yn ddeg a thrigain, fe'i penodwyd yn swyddog mewn gofal yno.[2] Er ei bod yn dioddef o ganser, bu farw o drawiad ar y galon ar 13 Ionawr 1951, ac fel Gwyddonydd Cristnogol cafodd ei hamlosgi. Cafodd ei phapurau personol eu dinistrio mewn tân tŷ yn fuan ar ôl ei marwolaeth.[3] Ar ei desg yn Tring roedd rhestr o 'Bapurau i ysgrifennu'. Erbyn yr olaf yn y rhestr roedd wedi ysgrifennu Swan Song.[2]

Roedd ei hystâd ar ôl ei marwolaeth yn gyfanswm o £15,369.[10]

Yn 2005, crëwyd 'adlun Dorothea Bate' yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol fel rhan o brosiect i ddatblygu oriel o gymeriadau nodedig i gylchrodio eu casys arddangos. Mae hi felly ymhlith enwogion eraill gan gynnwys Carolus Linnaeus, Mary Anning, a William Smith. Maent yn dweud straeon am hanes eu bywydau a'i darganfyddiadau.[3]

Yn ei chofiant Discovering Dorothea: the Life of the Pioneering Fossil-Hunter Dorothea Bate, mae Karolyn Shindler yn disgrifio Bate yn "ffraeth, egr, clyfar a dewr".[3] Shindler hefyd yw awdur y bywgraffiad yn argraffiad 2004 yr Oxford Dictionary of National Biography.[2]

Detholiad cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • A short account of a bone cave in the Carboniferous limestone of the Wye valley, Geological Magazine, cyfres newydd, 4ydd degawd, 8 (1901), pp. 101–6
  • Preliminary Note on the Discovery of a Pigmy Elephant in the Pleistocene of Cyprus (1902–1903)[4]
  • Further Note on the Remains of Elephas cypriotes from a Cave-Deposit in Cyprus (1905)[11]
  • On Elephant Remains from Crete, with Description of Elephas creticus (1907)[12]
  • Excavation of a Mousterian rock-shelter at Devil's Tower, Gibraltar (with Dorothy Garrod, L. H. D. Buxton, a G. M. Smith, 1928)[13]
  • A Note on the Fauna of the Athlit Caves (1932)[14]
  • The Stone Age of Mount Carmel, volume 1, part 2: Palaeontology, the Fossil Fauna of the Wady el-Mughara Caves (gyda Professor Dorothy Garrod, 1937)[8]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • 1940: Cronfa Wollaston Fund o'r Gymdeithas Ddaearegol[15]
  • 1940: Etholwyd yn gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearegol

Portread[golygu | golygu cod]

Mae portread dyfrlliw o Bate fel merch ifanc, a ddarluniwyd gan ei chwaer, yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol. Ynddo mae hi'n gwisgo ffrog ddu wedi addurno gyda les gwyn, a rhosyn mawr pinc.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Making no bones about hunting fossils at telegraph.co.uk dated 4 Gorffennaf 2005 (accessed 5 Mawrth 2013)
  2. 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 2.13 2.14 Bate, Dorothea Minola Alice (1878–1951), palaeontologist by Karolyn Shindler in Dictionary of National Biography online (cyrchwyd 23 Tachwedd 2007)
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Review by Miles Russell of Discovering Dorothea: the Life of the Pioneering Fossil-Hunter Dorothea Bate by Karolyn Shindler at ucl.ac.uk (cyrchwyd 23 Tachwedd 2007)
  4. 4.0 4.1 Bate, Dorothy M. A.: Preliminary Note on the Discovery of a Pigmy Elephant in the Pleistocene of Cyprus in Proceedings of the Royal Society of London Vol. 71 (1902–1903), pp. 498–500
  5. 5.0 5.1 Dorothea Bate, Cyprus work diary 1901–02, 3 volumes, Natural History Museum's earth sciences library, palaeontology MSS
  6. Evans, Arthur: The Early Nilotic, Libyan and Egyptian Relations with Minoan Crete in The Journal of the Royal Anthropological Institute of Great Britain and Ireland Vol. 55, Jul.
  7. Shindler, Karolyn: Discovering Dorothea: the Life of the Pioneering Fossil-Hunter Dorothea Bate (2005)
  8. 8.0 8.1 D. A. Garrod, D. M. A. Bate, Eds., The Stone Age of Mount Carmel, Volume 1: Excavations at the Wady El-Mughara (Clarendon Press, Oxford, 1937)
  9. On the Occurrence of Hippopotamus in the Iron Age of the Coastal Area of Israel (Tell Qasileh) by Georg Haas in Bulletin of the American Schools of Oriental Research, No. 132 (Dec. 1953), pp. 30–34
  10. Probate, granted 5 April 1951, CGPLA England & Wales
  11. ’’Further Note on the Remains of Elephas cypriotes from a Cave-Deposit in Cyprus’’ by Dorothea M. A. Bate in Philosophical Transactions of the Royal Society of London, Series B, Containing Papers of a Biological Character, Vol. 197 (1905), pp. 347–360
  12. Bate, D.M.A. 1907.
  13. Garrod, D. A. E., Buxton, L. H. D., Elliot Smith, G. & Bate, D. M. A. (1928) Excavation of a Mousterian Rock-shelter at Devil's Tower, Gibraltar in Journal of the Royal Anthropological Institute 58, pp. 91–113
  14. A Note on the Fauna of the Athlit Caves by Dorothea M. A. Bate in The Journal of the Royal Anthropological Institute of Great Britain and Ireland, Vol. 62, Jul.
  15. "Wollaston Fund". Award Winners Since 1831. The Geological Society of London. Cyrchwyd 20 Mai 2014.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Shindler, Karolyn: Darganfod Dorothea: o Fywyd Arloesol Ffosil-Heliwr Dorothea Bate (Llundain, Harper Collins, 2005, 390pp, 48 platiau du a gwyn) ISBN 0-00-257138-2
  • Miss D. M. A. Bate (ysgrif goffa) yn Natur, Llundain, 167, tt. 301-302.
  • Miss Dorothea Bate, ysgrif goffa yn The Times, 23 Ionawr 1951
  • Nicholas, Anna: Geifr o Ynys Fach (Llundain, Summersdale, 2009, 320pp, ISBN 978-1-84024-760-2

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]