Mithridates I, brenin Parthia

Oddi ar Wicipedia
Mithridates I, brenin Parthia
Ganwyd195 CC Edit this on Wikidata
Bu farw132 CC Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swyddlist of Parthian kings Edit this on Wikidata
TadPhriapatius of Parthia Edit this on Wikidata
PriodRinnu Edit this on Wikidata
PlantPhraates II of Parthia, Rhodogune of Parthia Edit this on Wikidata
LlinachArsacid dynasty of Parthia Edit this on Wikidata
Darn arian Mithridates I o Parthia o fathdy Seleucia ar Digris. Mae'r cefn yn dangos Heracles noeth yn dal cwpan, croen llew a chlwb. Mae'r ysgrifen Roeg yn darllen ΒΑΣΙΛΕΩΣ ΜΕΓΑΛΟΥ ΑΡΣΑΚΟΥ ΦΙΛΕΛΛΗΝΟΣ (Y brenin mawr Arsaces, cyfaill y Groegiaid). Mae'r dyddiad ΓΟΡ yn cynrhychioli blwyddyn 173 y brenhinllin y Seleuciaid, h.y. 140-139 CC

Brenin Parthia oedd Mithridates I neu Mithridates (195 CC - 138 CC), a deyrnasai fel "Brenin Mawr" y wlad o tua 171 CC hyd 138 CC, gan ddilyn ei frawd Phraates I o Parthia (176 CC - 171 CC). Roedd yn fab i'r brenin Phriapatius o Parthia (191 CC - 176 CC). Dan Mithridates tyfodd Parthia yn rym gwleidyddol mawr a lledaenwyd i'r gorllewin i gynnwys Mesopotamia. Cipiwyd Babylonia (144 CC), Media (141 BC) ac yna Persia (139 BC), pan ddaliodd Mithridates y brenin Seleucid Demetrius II o Syria (146-139 CC a 129-126 CC). Yn ddiweddarach priododd Demetrius II Rhodogune ferch Mithridates.

Ymledodd ffiniau Parthia i'r dwyrain hefyd, i Margiana, Aria a Bactria yng Nghanolbarth Asia, gan sefydlu rheolaeth Parthia ar Lwybr y Sidan. Galwai Mithridates ei hun yn philhellene (cyfaill y Groegiaid) a defnyddiai arian bath yn dilyn patrymau Groegaidd.

Mae ei enw yn dynodi ei fod dan amddiffyn a nawdd y duw Mithra ac yn rhoi iddo ei awdurdod i ryw raddau. Fe'i olynwyd ar ei farwolaeth gan ei fab Phraates (teyrnasodd 138 CC - 128 CC).