Amrodor

Oddi ar Wicipedia

Math o beiriant aml-rotor gyda 3 neu ragor rotor ydy amrodor neu 'amrotor' (gair cyfansawdd: 'aml' a 'rotor'; Saesneg: multirotor) a gynhyrchir i deithio drwy'r awyr. Yn wahanol i'r hofrennydd, un-rotor neu ddau-rotor, mae'r rotors (neu'r 'llafnau') yn sefydlog; mae ongl llafnau'r hofrennydd yn newid eu hongl wrth iddynt chwildroi, er mwyn ei reoli a'i gadw'n sefydlog mewn un lle. Gan fod llafnau'r amrodor, fodd bynnag, yn sefydlog, mae'n rhaid ei reoli gyda drwy newid cyflymder y llafnau unigol. Mae'r rhan fwyaf o amrodyr yn ddi-berson, ac felly'n drôn‎.

Defnyddir amrodyr law yn llaw gyda rheolaeth-radio.[1][2][3][4][5][6] Ceir llawer o amrywiadau - y rhai amlaf yw'r peiriannau 4-llafn y quodcopter (y 'petrodor'), 6-llafn ('hecsrodor') ac 8-llafn ('octrodor').[7]

Er mwyn ysgafnhau'r hedfaniad, ac er mwyn rhoi mwy o bwer a sefydlogrwydd, gosodir y llafnau ar ffurf cyfechelin h.y. gosodir y llafnau mewn parau gyda pob llafn yn troi i gyfeiriad gwahanol (un yn wynebu tuag i lawr a'r llall i fyny.[8]

Petrodor cyfechelin - yr OnyxStar FOX-C8 XT Observer gan y cwmni AltiGator.

Gwahardd amrodyr[golygu | golygu cod]

Yn 2015 daeth deddfau i rym mewn sawl gwlad i reoli amrodyr, ac erbyn Ebrill 2016 roedd un wlad, Monaco wedi'u gwahodd yn llwyr, ac wedi gosod cyfarpar yn ei le i adnabod ac atal amrodyr. Gosododd gwmni o Gaergrawnt, Aveilant, synhwyryddion radar-holgraffig, sy'n ddigon sensitif i synhwyro aderyn. Mewn llai nag eiliad, mae'r cyfarpar yn jamio'r cysylltiad rhwng yr amrodyr a'r rheolwr, gan ei wneud yn dda i ddim.[9] Y bwriad yw diogelu awyrennau sy'n codi a glanio yn ogystal â diogelu preifatrwydd ei dinasyddion, gwlad lle ceir llawer o baperatsi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term sydd wedi ei fathu'n newydd sbon: Amrodor o'r Saesneg "multirotor". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

Arf newydd i'r heddlu[golygu | golygu cod]

Yn 2016 cyhoeddwyd fod Heddlu De Cymru wedi dechrau defnyddio amrodyr i ganfod ac atal drwgweithredwyr.[10] Ym Medi y flwyddyn honno, yng Ngogledd Dakota, yr Unol Daleithiau, cynhoeddodd y brodorion fod heddlu'r dalaith yn paratoi i ddefnyddio amrodyr arfog.[11] Mae'n hollol gyfreithiol iddynt arfogi'r amrodor gyda bwledi plastig, nwy dagrau neu bupur yn ogystal â ffilmio'r cyhoedd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "AeroQuad - The Open Source Quadcopter". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-03. Cyrchwyd 2016-04-10.
  2. "Multicopter Table". multicopter.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-06. Cyrchwyd 30 Mehefin 2015.
  3. "FrontPage - UAVP-NG - The Open Source Next Generation Multicopter". uavp.ch. Cyrchwyd 30 Mehefin 2015.
  4. "FrontPage - UAVP-NG - The Open Source Next Generation Multicopter". uavp.ch. Cyrchwyd 30 Mehefin 2015.
  5. "DIY Drones". diydrones.com. Cyrchwyd 30 Mehefin 2015.
  6. OpenPilot Archifwyd 2011-05-27 yn y Peiriant Wayback. Open source UAV autopilot for multirotors
  7. "How to Pick The Best Multirotor Frame". My First Drone. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-03. Cyrchwyd 30 Mehefin 2015.
  8. "Multirotor Frame Configurations". Coptercraft. Cyrchwyd 23 December 2015.
  9. Papur newydd: The Sunday Times; 17 Ebrill 2016; Teitl: Monaco hires Cambridge techies to down drones.
  10. www.walesonline.co.uk; Teiltl: Police force to use drone to help officers carry out work; adalwyd 10 Medi 2016.
  11. www.independent.co.uk; adalwyd 10 Medi 2016.