Galba

Oddi ar Wicipedia
Galba
Ganwyd24 Rhagfyr 3 CC Edit this on Wikidata
Terracina Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ionawr 0069 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadGaius Sulpicius Galba Edit this on Wikidata
MamMummia Achaica, Livia Ocellina Edit this on Wikidata
PriodAemilia Lepida Edit this on Wikidata
PlantUnknown, Unknown, Lucius Calpurnius Piso Frugi Licinianus Edit this on Wikidata
LlinachSulpicii Galbae, Livii Ocellae Edit this on Wikidata

Servius Galba Caesar Augustus neu Galba (24 Rhagfyr 3 CC15 Ionawr 69 OC) oedd chweched Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Servius Sulpicius Galba. Roedd yn un o bedwar ymerawdwr yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC).

Ganed Galba yn Tarracina, o deulu bonheddig. Yn ystod teyrnasiad Caligula daeth yn bennaeth ar fyddin Germania Superior. Cymerodd ran yng ngoresgyniad Prydain dan Claudius. Dan yr ymerawdwr Nero daeth yn Rhaglaw ar dalaith Hispania Tarraconensis yn Sbaen. Pan laddodd Nero ei hun yn 68 OC wedi gwrthryfel yn ei erbyn, penderfynodd y Senedd alw Galba i fod yn ymerawdwr.

Roedd Galba yn 71 oed ac yr oedd ei ddau fab wedi marw o'i flaen. Roedd felly yn bwysig ei fod yn dewis ei olynydd yn fuan. Roedd Marcus Salvius Otho wedi gobeithio cael ei ddewis ond yn y diwedd penderfynodd Galba enwi Lucius Calpurnius Piso Frugi Licinianus. Oherwydd hyn cynllwyniodd Otho yn erbyn Galba, a pherswadiodd y milwyr yng ngarsiwn Rhufain i'w gyhoeddi ef yn ymeradwr. Lladdwyd Galba gan rai o'r milwyr, a dilynwyd ef gan Otho.

Rhagflaenydd:
Nero
Ymerawdwr Rhufain
8 Mehefin 68 OC15 Ionawr 69 OC
Olynydd:
Otho
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato