Goronwy Foel

Oddi ar Wicipedia
Goronwy Foel
GanwydTeyrnas Deheubarth Edit this on Wikidata
Bu farw13 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd13 g Edit this on Wikidata

Roedd Goronwy Foel (fl. tua chanol y 13g) yn fardd llys Cymraeg o'r Deheubarth.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Nid oes gennym unrhyw wybodaeth am y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglir o gerdd anghyflawn iawn a briodolir iddo yn Llawysgrif Hendregadredd.[1]

Yn y gerdd honno, sy'n rhiaingerdd gonfensiynol, mae Goronwy yn moli harddwch Marared ferch Rhys Fychan. Mae'n bosibl mai at un o'r ddwy ferch o'r enw Marared (Maryred, sef Marged) a gafodd Rhys Ieuanc ap Rhys Mechyll, un o dywysogion Deheubarth tua chanol y 13g ganrif. Mam y merched oedd Gwladus ferch Gruffudd ap Llywelyn ap Iorwerth (m. 1244) o Wynedd, wyres Llywelyn Fawr.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Golygir "Mawl Marared ferch Rhys Fychan" gan R. Geraint Gruffydd yn, N.G. Costigan ac eraill (gol.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill (Caerdydd, 1995), yng Nghyfres Beirdd y Tywysogion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill (Caerdydd, 1995).



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch