Dragon Data

Oddi ar Wicipedia
Dragon Data
Math
busnes
Diwydiantcaledwedd
Sefydlwyd1982
Daeth i ben1984
PencadlysFforest-fach
CynnyrchDragon 32/64

Cwmni cynhyrchu cyfrifiaduron cartref oedd Dragon Data. Fe'i sefydlwyd yn 1982 gan gwmni teganau Mettoy a oedd ar y pryd â'i bencadlys yn Fforestfach, ger Abertawe. Gobaith y cwmni oedd manteisio ar gynnydd ym mhoblogrwydd cyfrifiaduron cartref, ddechrau'r 1980au.[1]

Cynnyrch enwocaf Dragon Data oedd cyfres o gyfrifiaduron Dragon (yn bennaf, y Dragon 32 a'r Dragon 64), a werthwyd drwy'r post ac yn siopau Boots, Comet a Dixons rhwng 1982 ac 1984.[2] Fodd bynnag, aeth y cwmni i drafferthion yn gynnar iawn, a bu raid i gonsortiwm, a oedd yn cynnwys Awdurdod Datblygu Cymru, achub Dragon Data yn ariannol.[3] Fel rhan o'r cytundeb gyda'r Awdurdod Datblygu, symudodd Dragon Data i ffatri yng Nghynffig, Pen-y-bont ar Ogwr.[4]

Prynwyd Dragon Data gan gwmni o Sbaen, Eurohard SA, yn 1984.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Laing, Gordon (2004). Digital Retro. Ilex. t. 106. ISBN 1-904705-39-1.
  2. Laing, Gordon (2004). Digital Retro. Ilex. t. 108. ISBN 1-904705-39-1.
  3. "Timeline". World of Dragon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2013.
  4. "Gallery". World of Dragon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2013.
  5. "Dragon History". Binary Dinosaurs. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2013.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]