Iain McLean

Oddi ar Wicipedia

Academydd yw'r Athro Iain McLean sydd yn athro gwleidyddiaeth yng Ngholeg Nuffield, Rhydychen.

Roedd yn ddarlithydd gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Newcastle upon Tyne (1971–8), yn gymrawd ac yn praelector gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen (1978–91), ac yn athro gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Warwick (1991–3).[1]

Arweiniodd prosiect ym 1998–2000 i ymchwilio i ymateb y llywodraeth i drychineb Aberfan.[2]

Mae'r Athro McLean hefyd yn is-gadeirydd ac yn yrrwr locomotif Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Professor Iain McLean (DPhil). Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.
  2. (Saesneg) Yr Athro Iain McLean a'r Dr Martin Johnes (2000). Corporatism and Regulatory Failure: Government Response to the Aberfan Disaster. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am academydd neu ysgolhaig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.