Tocsin

Oddi ar Wicipedia

Gwenwyn a gynhyrchir yn fiolegol gan organeb byw yw tocsin.[1] Defnyddir y term yn enwedig i ddisgrifio sylweddau gwenwynig a gynhyrchir gan micro-organebau megis bacteriwm, dinofflangellogion, ac algâu. Cynhyrchir mycotocsinau gan ffyngau, phytotocsinau neu lyswenwynau gan blanhigion fasgwlaidd, a söotocsinau gan anifeiliaid.[2]

Rhennir tocsinau yn endotocsinau ac ecsotocsinau. Sylwedd polysacarid a ffosffolipid yw'r endotocsin a geir mewn cellfuriau. Rhyddheir endotocsin pan mae'r gell yn marw neu'n chwalu. Tocsin a secretir gan gell fyw i mewn i'w hamgylchedd yw ecsotocsin. Grŵp amrywiol o broteinau hydawdd yw'r rhain.

Tocsoid yw'r enw ar docsin protein sydd wedi ei wresogi neu ei drin yn gemegol er mwyn atal ei wenwyn, ond ni effeithir ar ei allu i achosi'r corff i greu gwrthgyrff.

Swyddogaeth[golygu | golygu cod]

Mae'n bosib bod rhai tocsinau yn chwarae rhan anhysbys mewn metabolaeth yr organeb sy'n eu cynhyrchu, ac eraill yn gynnyrch gwastraff sydd heb bwrpas o gwbl. Ond mae'n amlwg bod gan nifer o docsinau eraill swyddogaethau pwysig a esblygodd er mwyn iddynt oroesi'r gystadleuaeth ecolegol. Gwyddys am filoedd o phytotocsinau sy'n amddiffyn y planhigyn yn erbyn anifeiliaid, yn enwedig pryfed. Cyhyrchir secretiadau tocsig gan nifer o anifeiliaid, naill ai ar draws holl feinwe'r corff (e.e. croen neu allsgerbwd) neu ar ran arbennig o'r corff, megis drwy bigau, drain neu'r dannedd. Modd o lonyddu neu ladd ysglyfaeth ac i amddiffyn yn erbyn ysglyfaethwyr yw gwenwyn anifeiliaid megis corynnod a nadroedd.

Meddygaeth[golygu | golygu cod]

Yn y corff dynol, mae tocsin yn ymddwyn fel antigen ac yn peri ymateb y system imiwnedd. Achosir symptomau nifer o afiechydon gan docsinau a ryddheir i mewn i'r corff gan facteria. Daw'r geri marwol o'r tocsin Vibrio cholera, a thetanws o Clostridium tetani. Cynhyrchir tetrodotocsin gan afu ac wyfeydd y chwyddbysgodyn. Daw'r afflatocsin o ffwng sy'n tyfu ar gnau daear, a gall hwn achosi gwenwyn yr afu. Mae'n bosib i bysgod a physgod cregyn bwytadwy droi'n wenwynig os ydynt yn bwyta planhigion neu algâu tocsig. Trosglwyddir y tocsinau i'r bod dynol sy'n ei fwyta, gan effeitho ar y system nerfol ac o bosib achosi ciguatera.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  tocsin. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) toxin. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.