Symbol

Oddi ar Wicipedia

Endid, llun, gair ysgrifenedig, sain, neu farc arbennig yw symbol, sy'n cynrychioli rhywbeth arall drwy cysylltiad, tebygrwydd, neu gonfensiwn, yn arbennig gwrthrych materol a ddefnyddir i gynrychioli rhywbeth anweladwy. Mae symbolau'n dangos (neu'n gwasanaethu fel) a chynrychioli syniadau, cysyniadau, a haniaethau eraill. Er enghraifft, ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia, mae octagon coch yn symbol sy'n trosglwyddo'r syniad penodedig (neu'r modd o) "STOPIO" neu "ATAL".

Esiampl cyffredin yw'r symbolau a ddefnyddir ar fapiau i ddynodi llefydd o ddidordeb megis cleddyfau wedi croesi i farcio maes brwydr, a rhifolion i gynrychioli rhifau.[1]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r gair "symbol" o'r Hen Ffrangeg, o Lladin, yn wreiddiol o'r iaith Groeg σύμβολον (sýmbolon). Y geiriau gwraidd yw συν- (syn-) sy'n golygu "cyd-" a βολή (bolē) "tafliad", sy'n rhoi'r ystyr "i daflu at ei gilydd" yn fras, yn llythrennol "cyd-ddigwyddiad" (zu-fall), hefyd "arwydd, tocyn neu cyfangiad". Mae'r dystiolaeth cynharaf o ddefnydd y gair iw gael yn Emyn Homeric i Hermes, pan mae Hermes yn ochneidio, ar weld y crwban, συμβολον ηδη μοι "symbolon [symbol/arwydd/rhagarwydd/cyfarfod/hap ddarganfyddiad?] o llawenydd i mi!" cyn ei droi i mewn i lyra.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. David G. Myers, Psychology, Worth Publishers; 7fed argraffiad (6 Mehefin 2004) ISBN 9780716752516, tud. 282
Chwiliwch am [[wikt:nodyn:symbol|nodyn:symbol]]
yn Wiciadur.