Sbectol

Oddi ar Wicipedia
Par o sbectolau presgripsiwn darllen

Dyfais sy'n cynnwys lensys gwydr neu blastig caled mewn ffrâm - sy'n gorffwys ar y trwyn a'r clustiau - er mwyn helpu pobl i weld yn well yw sbectol neu sbectolau. Defnyddir sbectolau fel arfer i gywiro golwg, er enghraifft sbectolau darllen a sbectolau ar gyfer pobl sydd â golwg byr. Mewn rhai mathau o chwaraeon, caiff sbectolau eu gwisgo i amddiffyn y llygaid, er enghraifft sboncen.

Mae sbectolau haul yn ei gwneud hi'n haws gweld mewn golau dydd llachar, ac yn gallu amddiffyn y llygaid rhag cael eu niweidio gan lefelau uchel o olau uwchfioled. Mae sbectolau haul cyffredin yn defnyddio lensys tywyllach er mwyn amddiffyn rhag golau llachar neu ddisgleirdeb; mae rhai sbectolau arbenigol yn troi'n glir mewn amgylcheddau tywyll neu dan do, ond yn troi'n sbectolau haul mewn golau llachar. Mae modd defnyddio sbectolau arbenigol er mwyn gweld gwybodaeth benodol (er enghraifft stereosgopi) neu sbectolau 3D er mwyn gwylio ffilmiau tri dimensiwn. Weithiau, caiff sbectolau heb ddim pŵer cywiro yn y lensys eu gwisgo at ddibenion ffasiwn neu aestheteg. Hyd yn oed gyda sbectolau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cywiro golwg, mae ystod eang iawn o gynlluniau ar gael at ddibenion ffasiwn, sy'n defnyddio plastig, weiar a deunydd eraill.

Mae pobl yn fwy tebygol o fod angen gwisgo sbectolau wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, gyda 93% o bobl rhwng 65 a 75 oed yn gwisgo sbectolau i gywiro'u golwg.[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Collin, Liz. "Good Question: Why Do So Many Of Us Need Glasses?".
  2. "Newsroom".