Rectwm

Oddi ar Wicipedia

1: Y geg
2: Taflod
3: Tafod bach
4: Tafod
5: Dannedd
6: Chwarennau poer
7: Isdafodol
8: Isfandiblaidd
9: Parotid
10: Argeg (ffaryncs)
11: Sefnig (esoffagws)
12: Iau (Afu)
13: Coden fustl
14: Prif ddwythell y bustl
15: Stumog
16: Cefndedyn (pancreas)
17: Dwythell bancreatig
18: Coluddyn bach
19: Dwodenwm
20: Coluddyn gwag (jejwnwm)
21: Glasgoluddyn (ilëwm)
22: Coluddyn crog
23: Coluddyn mawr
24: Colon trawslin
25: Colon esgynnol
26: Coluddyn dall (caecwm)
27: Colon disgynnol
28: Colon crwm
29: Rhefr: rectwm
30: Rhefr: anws

Daw'r gair rectwm o'r gair Lladin rectum intestinum (coluddyn syth), a dyma'r rhan olaf o'r coluddion mewn llawer o anifeiliaid sy'n gorffen yn yr anws. Mae'n rhan, felly, o'r system dreulio. Mewn dyn mae oddeutu 12 cm o ran hyd.

Ei bwrpas[golygu | golygu cod]

Storfa ysgarthion ydyw; storfa dros dro. Mae waliau'r rectwm yn ymledu wrth i'r defnydd lenwi'r rhan yma, gan ymestyn synhwyrwyr nerfol sydd wedi'u lleoli yn waliau'r rectwm ac yn anfon neges i'r ymennydd ei bod hi'n amser i ysgarthu. Os nad ydy'r weithred hon yn digwydd, mae'r ysgarthion yn mynd yn ei ôl i'r colon ble mae rhagor o ddŵr yn cael ei amsugno ohono. Os gwneir hyn (hy dal yn ôl rhag cachu) am gyfnod hir, mae'r ysgarthion yn eithaf caled.

Diagramau[golygu | golygu cod]