Pridd

Oddi ar Wicipedia
Pridd

Gall pridd fod yn olau fel tywod neu yn frowngoch, yn ysgafn a sych neu yn drwm ac yn wlyb a gall gynnwys cerrig mân, gronynnau bach caled sef tywod, darnau o blanhigion a phowdwr mân fel blawd. Os oes llawer o dywod ynddo bydd yn bridd ysgafn ond os gyda llawer o flawd bydd yn gleiog a thrwm. Bydd pridd tywodlyd yn naturiol yn sych gan nad yw'r tywod yn dal y dwr. Ar y llaw arall bydd pridd cleiog yn dal gormod o ddŵr.

Eginyn erthygl sydd uchod am briddeg neu wyddor pridd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am pridd
yn Wiciadur.