Feiol

Oddi ar Wicipedia
feiol modern

Mae’r feiol yn rhan o deulu o offerynnau llinynnol a genir â bwa ac mae enghreifftiau cynnar yn deillio yn ôl i’r 15g yn Sbaen. Er bod feiolau bas yn debyg mewn rhai agweddau i’r sielo, mae’r feiolau yn wahanol mewn sawl ffordd i offerynnau yn nheulu’r feiolin. Mae gan y feiol gefn gwastad yn hytrach na chrwm, ysgwyddau gwargrwm, tyllau c yn lle rhai f, a chwech neu saith tant yn hytrach na phedwar. Mae’r tiwnio yn wahanol hefyd (pedwerydd rhwng tannau a thrydydd yn y canol, yn hytrach na phumedau) a defnydd o gribellau at leoli nodau.

Mae nifer o feintiau i’r feiol, ac ym Mhrydain roedd yn arferiad i gael cist o ddau offeryn trebl, dau denor a dau fas yng nghyfnod yr unfed a’r 17g. Cenir pob aelod o’r teulu feiol yn null y sielo, megis yr enw Eidalaidd viola da gamba (neu feiol y goes). Mae’r offerynnau uchaf yn nheulu’r feiolin wedyn yn dwyn yr enw viola da braccio ( neu feiol y fraich). Dalier y bwa uwch ben yn hytrach nag o dan cledr y llaw. Yn hyn o beth defnyddir y bwa Almaenig yn yr un dull efo’r bas dwbl hyd heddiw.

Datblygwyd teulu’r feiolin i gymryd lle’r feiolau yn y 18g - sef y feiolin, fiola, sielo a’r bas dwbl. Yn ddiddorol, goroesodd y crwth yng Nghymru fel offeryn gwerin ac mewn llysoedd yng nghyfnod y feiolau, a chan mai cerddoriaeth y Dadeni a’r Baróc sy’n perthyn i’r feiolau, nid oedd hyn at ddant pawb yn llysoedd y Cymry.