Evan James

Oddi ar Wicipedia
Evan James
FfugenwIeuan ap Iago Edit this on Wikidata
Ganwyd1809 Edit this on Wikidata
Caerffili Edit this on Wikidata
Bu farw30 Medi 1878 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, gwëydd Edit this on Wikidata
PlantJames James Edit this on Wikidata

Awdur Hen Wlad fy Nhadau, anthem genedlaethol Cymru, oedd Evan James o Bontypridd ("Ieuan ap Iago"; 180930 Medi 1878). Ei fab, James James, oedd y cyfansoddwr.

Y copi cynharaf o Hen Wlad fy Nhadau, 1856
"Hen Wlad fy Nhadau", gan Madge Breese ar gyfer y Gramophone Company (1899) – y recordiad cyntaf gwybyddus o unrhyw gân yn y Gymraeg[1]

Gwëydd oedd James wrth ei waith a roedd yn cyflogi sawl gweithiwr yn ei felin ar lan Afon Rhondda. Roedd hefyd yn berchen Tafarn yr Ancient Druid yn Argoed, Bedwellte, Sir Fynwy

Yn ôl chwedl deuluol, roedd ei fab James James yn cerdded un diwrnod ar lan yr afon pan ddaeth alaw Hen Wlad fy Nhadau i'w feddwl. Pan roddodd yr alaw i'w dad, cyfansoddodd Evan James y geiriau a ddaeth i fod yn anthem cenedlaethol Cymru. Mae'n debyg fod Evan wedi ei ysbrydoli gan y ffaith fod dau o'i frodyr wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau ac wedi ysgrifennu yn canmol eu gwlad mabwysiedig a'i annog i ymuno â nhw.[2]

Cofeb i Evan James a James James ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd

Mae cofeb i Evan James a'i fab, ar ffurf dau ffigwr yn cynrychioli Barddoniaeth a Cherddoriaeth, yn sefyll ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd. Dangosir wyneb Evan nesaf at ei dad, ond mae'n ymddangos yn ifancach am fod y ffotograffau oedd ar gael i'r cerflunydd, Goscombe John, wedi eu cymryd blynyddoedd ar wahan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Welsh anthem - The background to Hen Wlad Fy Nhadau". BBC. 2008-12-01.
  2.  Evan a James James. BBC. Adalwyd ar 8 Medi 2018.