Crug

Oddi ar Wicipedia
Crug
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6092°N 2.7389°W Edit this on Wikidata
Cod OSST489903 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Caer-went, Sir Fynwy, Cymru, yw Crug[1] (Saesneg: Crick).[2] Fe'i lleolir ar ffordd yr A48 tua 1 filltir i'r gogledd o dref Cil-y-coed ac 1 filltir i'r dwyrain o bentref Caer-went.

Yng nghyfnod y Rhufeiniaid roedd safle Crick yn gyffordd bwysig ar y ffordd a elwir weithiau'n Via Julia a oedd yn rhedeg o Gaerfaddon (Aquae Sulis) ar draws aber Afon Hafren i Sudbrook ac ymlaen i Gaer-went (Venta Silurum) a Chaerllion (Isca Augusta). Yn Crick cyfarfu'r llwybr â'r ffyrdd i Gaerloyw (Glevum) a Threfynwy (Blestium).

Mae David Broome, cyn neidiwr ceffylau mewn cystadlaethau rhyngwladol, yn dod o'r ardal ac mae'n cadw canolfan farchogol ym Mount Ballan Manor yn y pentref.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 19 Hydref 2021
  3. (Saesneg) David Broome Event Centre