Baʿal

Oddi ar Wicipedia
Baʿal
Enghraifft o'r canlynolduwdod, cymeriad Beiblaidd, duw taranau, duwdod stormydd Edit this on Wikidata
Enw brodorolבַּעַל Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Delw o Baʿal, 14eg ganrif CC - 12fed ganrif CC, o Ugarit); yn awr yn amgueddfa'r Louvre

Mae Baʿal neu Baal (Hebraeg: בעל) yn deitl Semitaidd a ddefnyddid ar gyfer nifer o wahanol dduwiau ac ysbrydion. Yr ystyr yw ‘arglwydd’, a gellir ei ddefnyddio am fod dynol hefyd ar brydiau. Ambell dro defnyddir baʿal fel cyfenw ar y duw Hadad, duw'r glaw, taranau, ffrwythlondeb ac amaeth. Dim ond yr offeiriaid oedd yn cael defnyddio yr enw "Hadad", felly defnyddid "Baal" i sôn amdano. Gelwid Melqart, duw dinas Tyrus yn Baʿal hefyd. Fodd bynnag, mae llawer o'r cyfeiriadau at "Baʿal", er enghraifft y cyfeiriadau yn y Beibl, yn cyfeirio at dduwiau lleol.

Prif dduw Carthago oedd Baʿal Hammon. Yn ôl rhai awduron Groegaidd a Rhufeinig, byddai'r Carthaginiaid yn llosgi plant ieuanc fel aberth i Baʿal Hammon, ond mae cryn ddadlau ynglŷn â gwirionedd hyn. Mae'n gysylltiedig â'r dduwies Tanit. Ceir yr enw Baʿal fel elfen mawn llawer o enwau Carthaginaidd, er enghraifft Hannibal a Hasdrubal. Baʿal oedd prif dduw dinas Palmyra hefyd.

Yn y cyfnod cynnar roedd yr Iddewon hefyd yn defnyddio'r gair Baʿal am eu duw, ond oherwydd y frwydr rhwng y ddwy grefydd, a welir er enghraifft yn hanes y proffwyd Elias yn lladd proffwydi Baal yn Llyfr y Brenhinoedd yn y Beibl, daethant i osgoi'r ymadrodd yn nes ymlaen.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]