Afon Sawdde

Oddi ar Wicipedia
Afon Sawdde
Afon Sawdde ger Llangadog
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr41 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.9333°N 3.9°W Edit this on Wikidata
AberAfon Tywi Edit this on Wikidata
Map

Afon yn Sir Gaerfyrddin yw Afon Sawdde (a nodir, yn anghywir, fel Sawddle ar y map OS). Mae'n un o lednentydd Afon Tywi. Ei hyd yw 11 milltir (18 km).

Cwrs[golygu | golygu cod]

Tardda prif gainc yr afon yn Llyn y Fan Fach yn uchel ym Mynydd Du Sir Gâr, sy'n rhan o geoparc y Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Llifa ar gwrs i gyfeiriad y gogledd, y gorllewin ac wedyn y gogledd-orllewin i gyrraedd ei chymer ar Afon Tywi wrth Garreg Sawddai ger Llangadog.

Mae'r ffrydiau sy'n llifo iddi yn cynnwys Nant Crynfe ac Afon Llechach ar ei glan dde ac Afon Meilwch, Afon Clydach a Sawdde Fechan ar ei glan chwith.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Tarddiad yr enw yw'r gair sawdd (cf. 'soddi'; 'suddiad', 'suddo'), yn ôl pob tebyg, ond mae Sawdde yn enw personol hefyd.[1] Cyfeiria'r bardd Lewys Glyn Cothi (bl. tua 1425 - tua 1490) ati fel "Sawddai". Cofnodir Llwch Sawddai fel hen enw ar Lyn y Fan Fach, tarddle'r afon hon. Cymharer hefyd Carreg Sawddai (uchod). Yn rhan isaf ei chwrs mae'r afon yn llifo dros Hen Dywodfaen Coch a cheir amryw byllau dwfn yn ei gwely: mae R. J. Thomas yn cynnig hyn fel esboniad posibl am yr enw.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007)
  2. R. J. Thomas, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938), tt. 32-33.