Achosiaeth

Oddi ar Wicipedia
Achosiaeth
Mathperthynas Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebatal Edit this on Wikidata
Rhan orhesymeg, multiple causes Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscause, consequent, effaith Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Perthynas neu weithrediad achos ac effaith yw achosiaeth.[1] Mae'n bwnc hollbwysig ym meysydd rhesymeg, athroniaeth, a gwyddoniaeth.

Aristotlys yw'r man cychwyn i achosiaeth yn athroniaeth Ewropeaidd. Nododd yr hen Roegwr bedwar math o achos: effeithlon, terfynol, materol, a ffurfiol. Er enghraifft, mae'r cerflunydd (effeithlon) yn cerfio marmor (materol) i greu gwrthrych gorffenedig (terfynol) sy'n meddu nodweddion cerflun (ffurfiol).

Gwadodd David Hume bod yr achos yn angenrheidiol i resymeg a nododd ei fod yn amhosib i brofi achosiaeth.[2] Er ei ddadl anatebadwy, a dylanwad yr empiryddion, mae'r mwyafrif o athronwyr a gwyddonwyr yn cydnabod ambell ragosodiad a priori, megis y ddeddf achos. Mynodd Immanuel Kant taw un o'r categorïau sylfaenol er mwyn deall ein byd yw'r achos; mae eraill yn ffafrio damcaniaeth fecanyddol ar achosiaeth. Fodd bynnag: heb rhyw ffurf ar benderfyniaeth, nid yw'r gwyddorau yn bosib. Rhagdybiaeth yr achosiaeth benderfyniadol sydd wrth wraidd pob damcaniaeth wyddonol, ac eithrio mecaneg cwantwm a goblygiadau'r egwyddor ansicrwydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  achosiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 1 Ionawr 2017.
  2. (Saesneg) David Hume: Causation, Internet Encyclopedia of Philosophy. Adalwyd ar 2 Ionawr 2017.