Zwmba!
Poster o waith Emyr Morris-Jones | |
| Enghraifft o: | sioe theatr neu sioe glybiau |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1986 |
| Awdur | crëwyd gan y cwmni - Bryn Fôn, Maldwyn John, Mair Tomos Ifans a Cefin Roberts |
| Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | Theatr Bara Caws |
| Dynodwyr | |
Fel "cyflwyniad newydd sbon (sydd yn arbennig ar gyfer y clybiau) yn ymwneud â'r byd rygbi a'i bethau" y disgrifiwyd y sioe theatr Zwmba!, gan Theatr Bara Caws ym 1986. Ychwanegwyd hefyd bod y sioe yn "anaddas i blant". Llwyfannwyd y sioe am y tro cyntaf yn y Queens Function Centre, Hwlffordd, yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun. Yr actorion a greodd y sioe, ac a fu'n gyfrifol am ei llwyfannu oedd Bryn Fôn, Valmai Jones, Maldwyn John, Mair Tomos Ifans a Cefin Roberts.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yn y gyfrol Theatr Bara Caws Caws : Dathlu'r Deugain [Carreg Gwalch 2017] nodir mai hon, o bosib, oedd y sioe glwb gyntaf i'r cwmni theatr, a ddaeth yn enwog dros yr ugain mlynedd wedi hynny [1986-2006] am eu sioeau clybiau beiddgar, "brwnt" ond yn llawn hwyl.[2] Er "nad ydi pawb yn gytûn" ynghlych pa sioe ellid ei galw "yn gyntaf", bu i'r sioe hon "godi sawl gwrychyn".[2]
Bryn Fôn gafodd y syniad, yn ôl Titus yn y gyfrol, sy'n dyfynnu geiriau Bryn wrth gofio am daith yn fan y cwmni theatr, wedi sioe yn ardal Corwen. Roedd Bryn, ynghyd â Valmai Jones a Cefin Roberts yn teithio gyda'i gilydd, a Bryn yn sôn am ei brofiadau o fod yn aelod o dîm rygbi Caernarfon ar y pryd. Noda Bryn "fod yna dipyn o stŵr ynglŷn â thîm rygbi Cymru yn mynd i dde Affrica" a'i fod o wedi codi'r peth mewn cyfarfod o'r clwb, gan gynnig "y dylian ni sgwennu llythyr i'r W.R.U yn deud na ddylan nhw ddim mynd 'lly".[2] O'r fan hon, y tyfodd y sioe Zwmba!.
"Fel sawl sioe glwb ddiweddarach roedd hi'n finiog o ran ei dychan, yn gwneud hwyl am ben pobol a phethau. Targedau Zwmba! oedd siofinistiaeth, bryntni cynhenid y gêm genedlaethol a thrafferthion De Affrica. Roedd hi hefyd felly yn wleidyddol, yn unol ag arddull y cwmni yn y cyfnod."[2]
Cafodd y sioe dderbyniad cymysg iawn, gyda'r cynnwys "yn ormod i rai".[2] Wedi'r Eisteddfod, teithwyd y sioe o gwmpas y clybiau rygbi, "a byddai pobol yn cerdded allan, rhai ohonyn nhw'n ffrindia da i aelodau o'r cast".[2] Mae'r gyfrol yn enwi Dafydd Hywel fel un, am nad oedd yn hapus bod y sioe "yn gwneud hwyl am y byd rygbi".[2]
Ond roedd y poster a gynlluniwyd gan Emyr Morris-Jones, hefyd wedi codi helynt cyn i'r cwmni gyrraedd y llwyfan, gyda llawer yn cwyno ei bod hi'n "anweddus". Aeth un mudiad, oedd yn glaw eu hunain yn "Mudiad Moes" ati i geisio atal nawdd y cwmni, yn sgil y posteri.[2] Ond methiant fu eu hymdrechion, gan i'r cwmni fynd ati i gynhyrchu sawl sioe debyg, wedi hynny.[2]