Neidio i'r cynnwys

Zora Neale Hurston

Oddi ar Wicipedia
Zora Neale Hurston
Ganwyd7 Ionawr 1891 Edit this on Wikidata
Notasulga Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ionawr 1960 Edit this on Wikidata
Fort Pierce Edit this on Wikidata
Man preswylZora Neale Hurston House Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethanthropolegydd, hanesydd, nofelydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, arbenigwr mewn llên gwerin, ymgyrchydd hawliau sifil, dramodydd, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTheir Eyes Were Watching God Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadFannie Hurst, Franz Boas, Ruth Benedict Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
MudiadDadeni Harlem Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Hall of Fame Merched Florida, Hall of Fame Artistiaid Florida, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, Cymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://zoranealehurston.com Edit this on Wikidata
llofnod

Awdur dylanwadol Affro-Americanaidd oedd Zora Neale Hurston (7 Ionawr 1891 - 28 Ionawr 1960) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel anthropolegydd, hanesydd, nofelydd newyddiadurwr ac arbenigwr mewn llên gwerin.[1][2] Darluniodd yn ei nofelau y frwydr hiliol yn Ne'r Unol Daleithiau a'r ymarfer o Vodou yn Haiti.[3][4][5][6][7][8][9]

Fe'i ganed yn Notasulga, Alabama a bu farw yn Fort Pierce o strôc ond symudodd y teulu i Eatonville, Florida, ym 1894. Mae Eatonville yn lleoliad ar gyfer llawer o'i straeon. Mae bellach yn safle'r 'Gŵyl Zora!' a gynhelir bob blwyddyn er anrhydedd iddi.[10] Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Howard, Prifysgol Columbia a Choleg Barnard. [11][12]

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Their Eyes Were Watching God (1937).[13] Ysgrifennodd hefyd dros 50 o straeon byrion, dramâu a thraethodau.

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Weriniaethol.

Yn ei gyrfa gynnar, cynhaliodd Hurston ymchwil anthropolegol ac ethnograffig tra'r oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Barnard a Phrifysgol Columbia. Roedd ganddi ddiddordeb mewn llên gwerin Affricanaidd-Americanaidd a Charibïaidd a chyfrannodd yn helaeth at hunaniaeth y gymuned honno.[angen ffynhonnell]

Y llenor

[golygu | golygu cod]

Mae Hurston yn gweithio ar y diwylliant Affro-Americanaidd ac ar y trafferthion o fod yn fenyw Affro-Americanaidd. Nid oedd y byd llenyddol yn cydnabod ei nofelau am rai degawdau, ac fe'i hanwybyddwyd gan lawer. Cafodd y diddordeb ei adfywio yn 1975 ar ôl i'r awdur Alice Walker gyhoeddi erthygl, In Search of Zora Neale Hurston, yn rhifyn mis Mawrth y flwyddyn honno o Ms..

Roedd yn rhaid aros tan 2001 cyn i'w gwaith Every Tongue Got to Confess gael ei gyhoeddi; dyma gasgliad o straeon gwerin a sgwennodd yn y 1920au, a gadwyd dan glo yn archifdy'r Smithsonian.[14] Ac yn 2018, cyhoeddwyd Barracoon: The Story of the Last "Black Cargo", llyfr am fywyd Cudjoe Lewis (Kossola).[15]

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Hurston oedd y chweched o wyth o blant John Hurston a Lucy Ann Hurston (née Potts). Roedd pob un o'i phedwar teidiau a neiniau wedi cael eu geni i gaethwasiaeth. Roedd ei thad yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr ac yn gyfranddaliwr, a ddaeth yn saer coed yn ddiweddarach ac roedd ei mam yn athrawes ysgol. Fe'i ganed yn Notasulga, Alabama, ar Ionawr 7, 1891, lle cafodd ei thad ei fagu a lle roedd ei thaid (tad ei thad) yn bregethwr yn eglwys y Bedyddwyr.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1936), 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1994), Hall of Fame Merched Florida, Hall of Fame Artistiaid Florida, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf (1943), Cymrodoriaeth Guggenheim (1937)[16][17] .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Boyd, Valerie (2003). Wrapped in Rainbows: The Life of Zora Neale Hurston (yn Saesneg). New York: Scribner. t. 17. ISBN 978-0-684-84230-1.
  2. Hurston, Lucy Anne (2004). Speak, So You Can Speak Again: The Life of Zora Neale Hurston. New York: Doubleday. t. 5. ISBN 978-0-385-49375-8.
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120386626. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_167. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  5. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120386626. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 18 Gorffennaf 2024.
  6. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120386626. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 17 Hydref 2015. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston".
  7. Dyddiad marw: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 17 Hydref 2015. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Zora Neale Hurston".
  8. Man claddu: https://www.cityoffortpierce.com/400/Trail-Marker-4. dyddiad cyrchiad: 21 Tachwedd 2023. https://billiongraves.com/headstone/Zora-Neale-Hurston/103656938. dyddiad cyrchiad: 21 Tachwedd 2023.
  9. Trefzer, Annette (2000). "Possessing the Self: Caribbean Identities in Zora Neale Hurston's Tell My Horse". African American Review 34 (2): 299–312. doi:10.2307/2901255. JSTOR 2901255. https://archive.org/details/sim_african-american-review_summer-2000_34_2/page/299.
  10. "ZORA! Festival Homepage". zorafestival.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ebrill 26, 2019. Cyrchwyd Mehefin 21, 2017. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  11. Alma mater: "Zora Neale Hurston (1891-1960)" (yn Saesneg). 29 Ionawr 2007. Cyrchwyd 4 Mai 2020.
  12. Anrhydeddau: "Zora Neale Hurston" (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017. "Hurston, Zora Neale" (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Mai 2020. "Zora Neale Hurston" (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.
  13. Rae, Brianna (2016-02-19). "Black History Profiles – Zora Neale Hurston". The Madison Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-10.
  14. "The Largesse of Zora Neale Hurston". villagevoice.com (yn Saesneg).
  15. Cep, Casey. "Zora Neale Hurston's Story of a Former Slave Finally Comes to Print". The New Yorker (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-11.
  16. "Zora Neale Hurston" (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Tachwedd 2017.
  17. "Hurston, Zora Neale" (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Mai 2020.