Neidio i'r cynnwys

Zoë Wicomb

Oddi ar Wicipedia
Zoë Wicomb
Ganwyd23 Tachwedd 1948 Edit this on Wikidata
Vanrhynsdorp, Namaqualand Edit this on Wikidata
Bu farw13 Hydref 2025 Edit this on Wikidata
Glasgow Edit this on Wikidata
Man preswylGlasgow Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner De Affrica De Affrica
Baner Namibia Namibia
Alma mater
  • Prifysgol y Western Cape
  • Prifysgol Reading Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, beirniad llenyddol, nofelydd, awdur storiau byrion, Saesnegydd, awdur ysgrifau, academydd, academydd, addysgwr Edit this on Wikidata
Gwobr/audoethuriaeth er anrhydedd, Windham–Campbell Literature Prizes Edit this on Wikidata

Awdures ac academig o Dde Affrica yw Zoë Wicomb (ganwyd 23 Tachwedd 1948) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel beirniad llenyddol.[1] Yn 2013 dyfarnwyd iddi Wobr Llenyddiaeth gyntaf Windham-Campbell am ei ffuglen.[2][3][4][5]

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Vanrhynsdorp, yn nhref fechan Namaqualand yn Namibia ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol y Western Cape (a sefydlwyd yn 1960 i bobl droen tywyll) a Phrifysgol Reading, Lloegr.[6][7] Ers y 1970au mae wedi byw yng ngwledydd Prydain. Roedd hi'n byw yn Nottingham a Glasgow am gyfnod cyn dychwelodd i Dde Affrica ym 1990, lle bu'n dysgu am dair blynedd yn yr adran Saesneg ym Mhrifysgol Western Cape. [8][9]

Er 1994 mae hi wedi byw yn Glasgow, lle bu, nes iddi ymddeol yn 2009, yn Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Strathclyde. Hi oedd yr Athro Extraordinaire ym Mhrifysgol Stellenbosch rhwng 2005 a 2011. Mae hi bellach yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Strathclyde.

Cafodd Wicomb gryn sylw yn Ne Affrica ac yn rhyngwladol gyda'i llyfr cyntaf, casgliad o straeon byrion rhyng-gysylltiedig, You Can't Get Lost in Cape Town (1987), a leolwyd yn ystod y cyfnod apartheid ac yn rhannol hunangofiannol, gan fod y cymeriad canolog yn ferch ifanc a fagwyd yn siarad Saesneg mewn cymuned "lliw" sy'n siarad Affricaneg yn "Little Namaqualand", gan fynd i Brifysgol Western Cape, gadael am Loegr, a sgwennu casgliad o straeon byrion. Cymharwyd y gwaith hwn â The Enigma of Arrival gan V. S. Naipaul.[10]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: doethuriaeth er anrhydedd (2010), Windham–Campbell Literature Prizes (2013)[11][12] .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Dorie Baker (4 Mawrth 2013). "Yale awards $1.35 million to nine writers". YaleNews. Cyrchwyd 5 Mawrth 2013.
  2. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "'She changed my life': tributes to South African writer". 25 Hydref 2025.
  3. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: "'She changed my life': tributes to South African writer". 25 Hydref 2025. Rebecca Chao (1 Tachwedd 2025). "Zoë Wicomb, Acclaimed South African Author, Dies at 76". Cyrchwyd 1 Tachwedd 2025.
  5. Dyddiad marw: "SA literary icon, Zoë Wicomb passes away at 77 - eNCA" (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Hydref 2025. Rebecca Chao (1 Tachwedd 2025). "Zoë Wicomb, Acclaimed South African Author, Dies at 76". Cyrchwyd 1 Tachwedd 2025.
  6. "UWC History", University of the Western Cape.
  7. "Zoe Wicomb A Writer Of Rare Brilliance". Interview by David Robinson for The Scotsman, 2000; via Intermix.
  8. Galwedigaeth: "'She changed my life': tributes to South African writer". 25 Hydref 2025. "'She changed my life': tributes to South African writer". 25 Hydref 2025. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Tachwedd 2025.
  9. Anrhydeddau: https://www5.open.ac.uk/students/ceremonies/sites/www.open.ac.uk.students.ceremonies/files/files/Honorary%20graduate%20cumulative%20list(7).xlsx. "'She changed my life': tributes to South African writer". 25 Hydref 2025.
  10. Donnelly, K. (2014). "Metafictions of development: The Enigma of Arrival, You Can’t Get Lost in Cape Town, and the place of the world in world literature", Journal of Commonwealth Literature, 49(1), 63–80.
  11. https://www5.open.ac.uk/students/ceremonies/sites/www.open.ac.uk.students.ceremonies/files/files/Honorary%20graduate%20cumulative%20list(7).xlsx.
  12. "'She changed my life': tributes to South African writer". 25 Hydref 2025.