Zoë Heller

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Zoë Heller
Zoë Heller English write D Shankbone adapted.tif
Ganwyd 7 Gorffennaf 1965 Edit this on Wikidata
St Pancras Edit this on Wikidata
Man preswyl Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth awdur, newyddiadurwr, nofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Tad Lukas Heller Edit this on Wikidata

Nofelydd Seisnig yw Zoë Heller (ganwyd 7 Gorffennaf 1965) sy'n gweithio o ddydd i ddydd fel newyddiadurwr. Hyd at 2019 roedd wedi cyhoeddi tair nofel: Everything You Know (1999), Notes on a Scandal (2003), a The Believers (2008). Rhoddwyd Notes on a Scandal ar restr fer Gwobr Man Booker a'i haddasu'n ffilm yn 2006.

Yn 2007, priododd y sgriptiwr Lawrence Konner mewn seremoni Iddewig "minimal" ond yn 2010, gwahanodd y ddau. Yn 2019 roedd Heller yn byw yn Ninas Efrog Newydd gyda'i dwy ferch, Lula a Frankie.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Zoë Kate Hinde Heller yn St Pancras, Llundain. Hi oedd yr ieuengaf o bedwar o blant Caroline (née Carter) a Lukas Heller, ysgrifennydd sgrîn llwyddiannus. Roedd ei thad yn fewnfudwr Iddewig o'r Almaen a'i mam yn Saesnes ac yn Grynwr.[1][2][3] Ei thaid, ar ochr ei thad, oedd yr athronydd gwleidyddol Hermann Heller. [4][5][6][7]

Ei brawd yw'r sgwennwr-sgrin Bruno Heller. Wedi gadael Haverstock School yng ngogledd Llundain aeth Heller i Goleg y Santes Ann, Rhydychen lle bu'n astudio Saesneg, ac yna i Brifysgol Columbia, Efrog Newydd lle derbyniodd M.A. yn 1988.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Heller ei gyrfa mewn newyddiaduraeth, fel awdur nodwedd ar gyfer yr Independent on Sunday yn y DU. Dychwelodd i Efrog Newydd yn ddiweddarach i ysgrifennu yn y cylchgrawn Vanity Fair ac yna The New Yorker. Ysgrifennodd golofn wythnosol ar gyfer cylchgrawn y Sunday Times yn y DU, ac roedd yn golofnydd rheolaidd i'r Daily Telegraph.[8] Enillodd am y gwaith hwn wobr "Colofnydd y Flwyddyn" gan Wobrau'r Wasg Brydeinig yn 2002. Cyd-ysgrifennodd y sgript ffilm ar gyfer ffilm annibynnol 1991, 'Twenty-One'.[9]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Philippe Naughton (28 March 2012). "UK News, World News and Opinion". Timesplus.co.uk. Cyrchwyd 4 Ebrill 2012.
  2. "Two giants of literature — and one big question". The Jewish Chronicle. 24 June 2009. Cyrchwyd 4 Ebrill 2012.
  3. Cohen, Patricia (26 Chwefror 2009). "Not Much Sympathy for Zoë Heller's Characters, but a Little Understanding". The New York Times.
  4. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14521750q; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14521750q; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Dyddiad geni: Internet Movie Database, dynodwr IMDb nm0375398, https://www.imdb.com/, adalwyd 16 Hydref 2015Wikidata Q37312
  7. "WEDDINGS; Miranda Cowley And Bruno Heller". New York Times. June 20, 1993.
  8. "Zoe Heller". British Council. Cyrchwyd 20 Mawrth 2016.
  9. Birnbaum, Robert (29 Gorffennaf 2004). "Zoe Heller". The Morning News. Cyrchwyd 20 March 2016. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)