Zenodotus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gramadegydd Groeg o Effesus yn y 3g CC oedd Zenodotus a gafodd ei benodi yn arolygydd Llyfrgell Alexandria gan y Brenin Ptolemi II. Fe greodd adolygiadau o farddoniaeth yr hen Roegiaid, gan gynnwys yr argraffiad beirniadol cyntaf o Homeros, ac ysgrifennodd astudiaethau ar Pindar ac Anacreon.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Zenodotus of Ephesus. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Medi 2017.