Yves-Emmanuel Dogbé
| Yves-Emmanuel Dogbé | |
|---|---|
| Ganwyd | 10 Mai 1939 Lomé |
| Bu farw | 7 Tachwedd 2004 10fed arrondissement Paris |
Bardd, nofelydd ac addysgwr o Dogo oedd Yves-Emmanuel Dogbé (10 Mai 1939 – 7 Tachwedd 2004).
Ganed ef yn Lomé, yn y cyfnod pan oedd Togo yn fandad Cynghrair y Cenhedloedd dan reolaeth Ffrainc. Astudiodd yn Lomé ac yn y Traeth Aur, a gweithiodd yn athro mewn sawl ysgol yn Dahomey. Cyhoeddwyd ei erthyglau, cerddi, a ffablau mewn papurau newydd lleol.[1]
Teithiodd i Ffrainc ac enillodd ei ddoethuriaeth mewn Astudiaethau Affricanaidd o Brifysgol Paris-Descartes ym 1973. Cyhoeddodd draethawd hir, La crise de l'éducation (1975), yn galw ar wledydd Affrica i gael gwared â'r hen ddibyniaeth ar systemau ac arferion addysg Ewropeaidd. Cafodd ei ofyn gan lywodraeth Togo i annerch Gŵyl Celfyddydau a Diwylliant Affrica (FESTAC 77) yn Lagos ar bwnc "Gwareiddiad y duon a dyfodol Affrica". Fodd bynnag, ni chafodd gyfle i gyflwyno'i syniadau i'r ŵyl wedi i'r llywodraeth ddarllen ei feirniadaeth o bolisïau'r Arlywydd Gnassingbé Eyadéma a'i arestio yn Lomé. Cafodd ei garcharu am chwe mis bron, heb dreial, cyn ei ryddhau mewn amnest yn Nhachwedd 1977.[2] Ffoes eto i Baris, ac yno sefydlodd y wasg Editions Akpagnon, a chyhoeddodd gyfrolau o'i farddoniaeth a'i ffuglen.
Ym 1991, ymunodd Dogbé a'r alltudion eraill a ddychwelodd i Dogo yn sgil rhywfaint o ryddfrydoli gwleidyddol.[1] Yn ogystal â'i farddoniaeth a straeon, ysgrifennodd Dogbé nofelau, gan gynnwys La victime (1979) a L'incarcéré (1980). Bu farw ym Mharis yn 65 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Jennifer C. Seely a Samuel Decalo, Historical Dictionary of Togo, 4ydd argraffiad (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2021), t. 141.
- ↑ (Saesneg) "Yves Emmanuel-Dogbé: The Prisoner", Index on Censorship (1980).
- Genedigaethau 1939
- Marwolaethau 2004
- Addysgwyr yr 20fed ganrif o Dogo
- Beirdd yr 20fed ganrif o Dogo
- Beirdd Ffrangeg yr 20fed ganrif
- Beirdd Ffrangeg o Dogo
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Dogo
- Nofelwyr Ffrangeg yr 20fed ganrif
- Nofelwyr Ffrangeg o Dogo
- Pobl a aned yn Nhogo
- Pobl o Lomé
- Pobl fu farw ym Mharis
- Ymfudwyr o Dogo i Ffrainc