Ystrad Fflur (T. Gwynn Jones)
- Mae'r erthygl hon am y gerdd gan T. Gwynn Jones. Am ddefnyddiau eraill gweler Ystrad Fflur.

Telyneg yn y traddodiad Rhamantaidd gan y bardd Cymraeg T. Gwynn Jones (1871–1949) yw 'Ystrad Fflur'. Dyma un o gerddi enwocaf y bardd, ac un o delynegion enwocaf yr iaith Gymraeg.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Lluniwyd y gerdd gan y bardd yn dilyn ymweliad i Abaty Ystrad Fflur yng Ngheredigion. "Wedi treulio diwrnod yno yn chwilio am weddillion Cristnogaeth".[1] Roedd gwerthfawrogi adfeilion yn nodweddiadol o aestheteg Rhamantiaeth ac mae'r gerdd yn enghraifft nodweddiadol yn y Gymraeg o waith llenyddol Rhamantaidd.
Ymddangosodd y gerdd am y tro cyntaf yn y Welsh Gazette yn 1919.[2] ac fe gynhwysodd y gerdd wedyn yn Caniadau (1934), ei ddetholiad o'i gerddi.
Y Gerdd
[golygu | golygu cod]Mae dail y coed yn Ystrad Fflur
Yn murmur yn yr awel
A deuddeng Abad dan y gro
Yn huno yno'n dawel.
Ac yno dan yr ywen brudd
Mae Dafydd bêr ei gywydd,
A llawer pennaeth llym ei gledd
Yn ango'r bedd tragywydd.
Er bod yr haf, pan ddêl ei oed,
Yn deffro'r coed i ddeilio,
Ni ddeffry dyn, a gwaith ei law
Sy'n distaw ymddadfeilio.
Ond er mai angof angau prudd
Ar adfail ffydd a welaf,
Pan rodiwyf ddaear Ystrad Fflur,
O'm dolur ymdawelaf.
Mesur
[golygu | golygu cod]Mae'r gerdd yn enghraifft nodweddiadol o delyneg Cymraeg o'r cyfnod. Ceir pedwar pennill o bedair llinell yr un, gyda'r ail a'r bedwaredd llinell ym mhob pennill yn odli; ceir hefyd odl fewnol, gyda'r sill olaf yn y llinell cyntaf a'r trydydd yn odli â gair yn y llinell nesaf:
Mae dail y coed yn Ystrad Fflur
Yn murmur yn yr awel
A deuddeng Abad dan y gro
Yn huno yno'n dawel.
Mae hyn yn ffurf a ddefnyddir yn gyffredin mewn telynegion Cymraeg o'r 19g a'r 20g cynnar, er enghraifft 'Rhos y Pererinion', cerdd arall gan T. Gwynn Jones a luniwyd tua'r un adeg, er nad oes enw penodol ar y math yma o delyneg.
Beirniadaeth
[golygu | golygu cod]Yn y gerdd hon mae Gwynn yn "give passionate utterance to his feeling of the mystery that surrounds human life".[3]
Mae'r gerdd wedi'i chynnwys mewn nifer fawr o flodeugerddi Cymraeg gan gynnwys Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif, Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg a Hoff Gerddi Cymru, sy'n tystio i'w phoblogrwydd parhaus.
Gwnaed trefniant cerddorol o'r gerdd gan John Metcalf.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |