Ysgol Uwchradd Cantonian

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ysgol Uwchradd Treganna)
Jump to navigation Jump to search
Ysgol Uwchradd Cantonian
Cantonian High School
Logo Ysgol Uwchradd Cantonian.png
Sefydlwyd 1907
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mrs Diane Gill
Lleoliad Heol y Tyllgoed, Y Tyllgoed, Caerdydd, Cymru, CF5 3JR
AALl Cyngor Dinas Caerdydd
Disgyblion 1146 (2005)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Glas
Gwefan cantonian.cardiff.sch.uk
Adeiladau'r ysgol.

Ysgol gyfun cyfrwng Saesneg yn ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd yw Ysgol Uwchradd Cantonian (Saesneg: Cantonian High School), ar gyfer disgyblion 11–18 oed. Y prifathrawes presennol ydy Mrs Diane Gill

Agorwyd yr ysgol yn wreiddiol odan yr enw Canton Municipal Secondary School ar 21 Hydref 1907 gyda 85 o fechgyn. Lleolwyd ar Stryd y Farchnad yn Nhreganna, agorwyd Canolfan Celfyddydau Chapter ar yr hen safle ym 1971.[2] Roedd bechgyn a merched wedi eu gwahanu yn yr ysgol, dim ond bechgyn oedd i gychwyn gydag ysgol y merched yn agor yn ddiwedddarach ar 4 Tachwedd 1907 gyda 105 o ddisgyblion. Newidwyd enw'r ysgol i Canton High School for Boys, a'r Canton High School for Girls ym 1933. Ysgolion gramadeg oedd y ddwy.[3]

Cafodd rhan fawr o'r ysgol ei dinistrio yn ystod y blitz yn yr Ail Ryfel Byd ym 1941, a ni chwblhawyd trwsio'n adeilad hyd 1951. Cafodd dyfodol yr ysgol i godi yn y senedd ym 1960, oherwydd safon diffygol adeilad yr ysgol ferched.[4] Ym mis Medi 1962, symudodd yr holl 612 o fechgyn a 32 athro cynorthwyol i adeilad newydd yn y Tyllgoed. Cymerwyd drosodd yr hen adeilad gan Canton High School for girls, ond ym 1963 symudodd y merched i'r safle yn y Tyllgoed hefyd, gyda'r merched ym mloc "A", a'r bechgyn ym mloc "B". Cyfunwyd yr ysgolion ag Ysgol Uwchradd Fodern Waterhall ym 1968, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1958. Roedd tua 1900 yn yr ysgol gyfun newydd, gyda'r plant ifengaf ar hen safle Waterhall. Mae hen adeiladau Waterhall yn gartref i Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr erbyn heddiw.[3] Newidwyd enw'r ysgol o Canton High School i Cantonian High School ym 1970.

Heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd 1146 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol yn 2005, gan gynnwys 134 yn y chweched dosbarth. Does dim o'r disgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ond mae tua 0.3% o'r disgyblion yn siarad ieithoedd eraill fel iaith gyntaf ac yn dysgu'r Saesneg fel ail iaith.[1]

Cyn-ddisgyblion o nôd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.