Ysgol Uwchradd Penarlâg

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Uwchradd Penarlâg
Hawarden High School
Sefydlwyd 1606
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mr Roger J. Davies M.A., NPQH
Dirprwy Bennaeth Mr. Paul Ellis
Lleoliad Yr Highway, Penarlâg, Sir y Fflint, Cymru, CH5 3JD
AALl Sir y Fflint
Disgyblion 1,114[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Du
Gwefan http://moodle.flintshire.gov.uk/hawarden/

Ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg ym Mhenarlâg, Sir y Fflint ydy Ysgol Uwchradd Penarlâg (Saesneg: Hawarden High School). Mae'n gwasanaethu disgyblion rhwng 11 ac 18 oed. Roedd 1,114 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2009, gan gynnwys 181 yn y chweched ddosbarth. Mae gan yr ysgol ormod o ddisgyblion ac mae’r chweched dosbarth tuag 20% yn fwy nag adeg yr arolygiad diwethaf yn 2003.[1]

Gellir olrhain hanes yr ysgol yn ôl i 1606 pan sefydlwyd ysgol ramadeg gydag un ystafell gyda £300 a adawyd mewn ewyllys gan drigolyn lleol, sef George Ledsham.

Cwblhawyd ymestyniad ym 1998, a gostiodd £4 miliwn, gan gynnwys neuadd newydd, ymestyniad i'r ganolfan chwaraeon, ymestyniad i'r adran dechnoleg a stiwdio ddawns newydd yn ogystal â nifer o welliannau eraill. Agorwyd yr ymestyniad yn swyddogol gan Ei Mawrhydi Elizabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 1998.

Cyn-ddisgyblion o nod[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.