Ysgol Uwchradd Llanrhymni
| Ysgol Uwchradd Llanrhymni | |
|---|---|
| Llanrumney High School | |
| Adeiladau Ysgol Uwchradd Llanrhymni | |
| Arwyddair | Educating for life[1] |
| Sefydlwyd | 1950au |
| Caewyd | 2013 |
| Math | Uwchradd, y Wladwriaeth |
| Cyfrwng iaith | Saesneg |
| Lleoliad | Ball Road, Llanrhymni, Caerdydd, Cymru, CF3 4YW |
| AALl | Cyngor Caerdydd |
| Disgyblion | 647 (2006)[1] |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 11–16 |
| Gwefan | http://www.llanrumney.cardiff.sch.uk |
Ysgol uwchradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Llanrhymni, Caerdydd oedd Ysgol Uwchradd Llanrhymni (Saesneg: Llanrumney High School).
Bu'n gwasanaethu ardaloedd Llanrhymni, Pentwyn a Llaneirwg yn nwyrain Caerdydd. Fe'i hagorwyd yn yr 1950au ynghyd ag Ysgol Uwchradd Tredelerch. Roedd yn ysgol gymysg ar gyfer disgyblion rhwng 11 ac 16 oed. Roedd 647 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2006, i gymharu â 774 yn 2000. Deuai 4% ohonynt o gefndir lleiafrif ethnig.[1]
Arwyddair yr ysgol oedd 'Educating for life'.[1]
Cau
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd cynnig stadudol i gau ysgolion uwchradd Llanrhymni a Tredelerch gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 20 Mawrth 2009. Cofnodwyd 1258 o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod gwrthwynebu.[2] Roedd y rhesymau dros gau yn cynnwys y ffaith fod adeiladau'r ddwy ysgol yn hen ac mewn cyflwr gwael.
Caewyd yr ysgol ar ddiwedd tymor yr haf yn 2013. Trosglwyddwyd y disgyblion i Ysgol Uwchradd Tredelerch. Caeodd hithau yn haf 2014 pan agorwyd Ysgol Uwchradd y Dwyrain.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Report: Llanrumney High School Inspection: 16/10/06 – 20/10/06. Estyn (15 Rhagfyr 2006).
- ↑ Cyflenwad o Leoedd Mewn Ysgolion - Cynigion Statudol » Ysgol Uwchradd Llanrhymni ac Ysgol Uwchradd Tredelerch. Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- ↑ Estyn, 'A report on Eastern High School, Quarry Hill, Newport Road, Rumney, Cardiff, CF3 3XG; Date of inspection: December 2014 Archifwyd 2019-02-17 yn y Peiriant Wayback'; gwelwyd 21 Ionawr 2019.